Ysgol Pen Barras yn ymweld a'r Senedd

Heddiw daeth llond lle o ddisgyblion Ysgol gynradd Pen Barras i ymweld â'r Senedd.

Roedd cael disgyblion blynyddoedd 5 a 6 o'r ysgol, sydd daflid carreg o'm swyddfa i yn Rhuthun,  draw i ddysgu am waith y Senedd yn fendigedig.  Mae dysgu am waith sefydliadau fel Senedd Cymru yn eithriadol bwysig, ac mae cael egluro beth ydi rôl ganolog Senedd Cymru yn nhirlun llywodraethant Gymru wastad yn braf.

Gobeithio y bydd yr ymweliad heddiw yn ysgogi'r genhedlaeth yma o ddisgyblion i ymddiddori yng ngwaith y Senedd, a hefyd i ddangos diddordeb mewn gwleidyddiaeth.

Pob lwc i'r dyfodol Ysgol pen Barras, a diolch am wrando ac am y cwestiynau difyr!


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Geraint Thomas
    published this page in Newyddion 2024-04-25 15:26:19 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd