loading

Croeso!

Croeso i wefan Llŷr Gruffydd - Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru, sy'n cynnwys siroedd Wrecsam, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Conwy, Arfon ac Ynys Môn.

Defnyddiwch y wefan hon i ddysgu mwy am Llŷr, ei waith yn y Senedd a'n cymunedau lleol, ac i gysylltu os gall Llŷr fod o gymorth.


https://www.plaid.cymru/llyr_gruffydd#imprint

Newyddion diweddaraf

Ysgol Pen Barras yn ymweld a'r Senedd

Heddiw daeth llond lle o ddisgyblion Ysgol gynradd Pen Barras i ymweld â'r Senedd. Roedd cael disgyblion blynyddoedd 5 a 6 o'r ysgol, sydd daflid carreg o'm swyddfa i yn Rhuthun,  draw i ddysgu am waith y Senedd yn fendigedig.  Mae dysgu am waith sefydliadau fel Senedd Cymru yn eithriadol bwysig, ac mae cael egluro beth ydi rôl ganolog Senedd Cymru yn nhirlun llywodraethant Gymru wastad yn braf. Gobeithio y bydd yr ymweliad heddiw yn ysgogi'r genhedlaeth yma o ddisgyblion i ymddiddori yng ngwaith y Senedd, a hefyd i ddangos diddordeb mewn gwleidyddiaeth. Pob lwc i'r dyfodol Ysgol pen Barras, a diolch am wrando ac am y cwestiynau difyr!

Ymweld a clwb tenis 'unigryw' yng Ngwynedd

Bu Llyr Gruffydd yn ddigon ffodus yn ddiweddar i gael gwahoddiad i ymweld â Chlwb Tenis Ieuenctid Caernarfon i weld beth sydd ganddyn nhw ar y gweill. "Mae'r gwaith mae'r staff hyfforddi yn ei wneud gydag ieuenctid yr ardal yn anhygoel" meddai Mr Gruffydd, Mae'r clwb bellach yn denu dros gant o blant oed ysgol i chwarae tenis bob wythnos yng Nghanolfan Tenis Arfon a adeiladwyd yn bwrpasol yn y dref, ac yn ddiweddar mae wedi denu cyllid gan Chwaraeon Cymru i wella cyfleusterau. Dywedodd Osian Williams, sy'n brif hyfforddwr yn y clwb "Diolch i'r cyllid o £200,000, rydym wedi llwyddo i sicrhau dyfodol y clwb yma yng Nghaernarfon. Rydym wedi buddsoddi mewn goleuadau newydd, ail-wynebu'r cyrtiau a llawer iawn mwy" "Er bod tenis yn y ganolfan wedi bod yn dirywio ers ei anterth yn y 1990au, mae'r cyllid hwn wedi cefnogi'r twf mewn tenis yn ardal Caernarfon yn ystod y blynyddoedd diwethaf." "Rydyn ni'n glwb tennis unigryw mewn ffordd. Ni yw'r unig glwb tennis ieuenctid cyfrwng Cymraeg yn y byd, sy'n rhywbeth arbennig rydyn ni'n meddwl." Ychwanegodd Mr Gruffydd - "Mae tenis yn ardal Gwynedd yn cystadlu yn erbyn chwaraeon poblogaidd eraill o ran denu chwaraewyr ieuenctid, ond mae cyflawniad y staff a'r gwirfoddolwyr yma yng Nghaernarfon yn anhygoel. Mae denu cymaint o chwaraewyr ifanc i'r gamp yn dipyn o gamp." "Efallai y gwelwn sêr tennis y dyfodol yn dod i'r amlwg o'r clwb - gyda'r cyfleusterau ar gael iddyn nhw yma, does dim byd i'w hatal rhag cyrraedd yr uchelfannau."  

Llongyfarch disgyblion am ennill gwobr teithio llesol.

Mae Llyr Gruffydd AS wedi llongyfarch disgyblion ysgol Sir Ddinbych am ennill gwobr teithio llesol. Disgrifiodd Mr Gruffydd, sy'n cynrychioli Gogledd Cymru yn y Senedd, gamp Ysgol Llywelyn o fod yr ysgol gyntaf yn y rhanbarth i ennill Gwobr Aur Sustrans Cymru fel un "hynod drawiadol". Yn ddiweddar ymwelodd Mr Gruffydd, o Blaid Cymru, â'r ysgol i glywed am y gwaith y mae plant wedi bod yn ei wneud i newid y ffordd y maent yn teithio i'r ysgol fel ei fod yn iachach ac yn fwy ecogyfeillgar. Mae Sustrans Cymru yn elusen sydd ar genhadaeth i helpu cymunedau i ddod yn fyw drwy gerdded, olwynion a beicio i greu lleoedd iachach a bywydau hapusach i bawb. Meddai Llŷr Gruffydd: "Roedd yn bleser pur cael cwrdd â staff a disgyblion Ysgol Llywelyn, a hoffwn ddiolch o galon iddynt am eu croeso cynnes. "Mae'n gamp aruthrol o drawiadol i fod yr ysgol gyntaf yng ngogledd Cymru i dderbyn Gwobr Aur Sustrans Cymru am hyrwyddo teithio llesol. "Mae'r disgyblion yn amlwg wedi mynd y tu hwnt i wneud teithio llesol yn rhan bob dydd o fywyd yr ysgol, ac wedi ei wneud yn hwyl ar yr un pryd. "Maen nhw'n esiampl wych i ddisgyblion eraill ar draws y rhanbarth o'r hyn y gellir ei gyflawni a sut y gall ysgolion fod yn rhagweithiol, herio ymddygiadau teithio a'u newid er budd pawb. "Mae'r wobr hon nid yn unig yn bluen yn het yr ysgol. Mae hefyd yn destun balchder i'r  gymuned leol i gyd. "Rwyf am weld teithio llesol yn dod yn norm yng Nghymru lle mae hynny'n bosibl. Dylai cerdded, beicio neu sgwtera i'r ysgol fod yn opsiwn diogel, hawdd a hygyrch i bob plentyn yng Nghymru. "Mae newid y ffordd rydyn ni'n teithio i'r ysgol yn ffordd effeithiol o gynyddu lefelau gweithgarwch ymhlith plant, ac mae hefyd yn allweddol os ydyn ni'n mynd i fynd i'r afael â llygredd aer. Mae Sustrans Cymru yn gwneud cyfraniad hanfodol i gyflawni hyn."    

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd