Croeso!
Croeso i wefan Llŷr Gruffydd - Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru, sy'n cynnwys siroedd Wrecsam, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Conwy, Arfon ac Ynys Môn.
Defnyddiwch y wefan hon i ddysgu mwy am Llŷr, ei waith yn y Senedd a'n cymunedau lleol, ac i gysylltu os gall Llŷr fod o gymorth.
Newyddion diweddaraf
Plaid yn hyrwyddo cynllun 'Pedwar Cam Ymlaen' i leihau diweithdra a rhoi hwb i'r economi
Llyr Gruffydd AS yn galw am weithredu ar frys i fynd i'r afael ag "ystadegau syfrdanol."
Mae cynnydd mewn ffigyrau diweithdra a'r nifer sy'n anweithgar yn anweithgar yn "double-whammy sy'n adlewyrchu'n wael ar agwedd laissez faire llywodraethau Prydain a Chymru", meddai Arweinydd Gweithredol Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Darllenwch fwy
‘Siarter Cymru Yfory’ – galw am gymorth Comisiynwyr a gweithredu gan Lywodraeth i roi’r genhedlaeth nesaf yn gyntaf
Roedd y byd yn fyd gwhanol pan apeliodd Syr Ifan ab Owen Edwards yn rhifyn Ionawr 1922 o ‘Cymru’r Plant’ ar i bobl ifanc ymuno â mudiad newydd i gynnig cyfleoedd trwy’r Gymraeg.
Chwarae ‘tag’ nid TikTok oedd cyfrwng yr hamddena, gwaddol y ‘Welsh Not’ nid gobaith y miliwn o siaradwyr oedd cefnlen statws y Gymraeg, a doedd dim son am rew môr yr Arctig yn dadmer.
Darllenwch fwy

Amseroedd aros am llawdriniaeth arferol yn y gogledd yn ‘annerbyniol’ meddai AS
Mae amseroedd aros am llawdriniaeth arferol yn y gogledd yn “annerbyniol’, meddai AS dros yr ardal.
Darllenwch fwy