Croeso!
Croeso i wefan Llŷr Gruffydd - Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru, sy'n cynnwys siroedd Wrecsam, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Conwy, Arfon ac Ynys Môn.
Defnyddiwch y wefan hon i ddysgu mwy am Llŷr, ei waith yn y Senedd a'n cymunedau lleol, ac i gysylltu os gall Llŷr fod o gymorth.
Newyddion diweddaraf

Galw am ymestyn cynllun bwyd arloesol
O'r chwith: Cyng Beca Brown, Banc Bwyd Llanrug; Llyr Gruffydd AS; Cyng Steve Collings, Bwyd Da Bangor; Peter and Tia Walker Fareshare; Cyng Berwyn Parry Jones, Cwm y Glo; Liws, Pantri Pesda; Megan Thorman, Y Dref Werdd, Blaenau Ffestiniog; and Dewi Roberts, Pantri Pesda.
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ogledd Cymru Llyr Gruffydd wedi galw am ehangu cynllun arloesol sy’n cadw bwyd dros ben rhag mynd i safleoedd tirlenwi ac yn sicrhau ei fod yn mynd i helpu pobl mewn angen.
Daw Cronfa Gwarged â Phwrpas Cymru i ben ddiwedd y mis yma ar ôl ailddosbarthu bron i 1200 tunnell o fwyd i elusennau a grwpiau cymunedol.
Darllenwch fwy
Herio'r Prif Weinidog am wella cysylltiadau ffyrdd yn y Gogledd
AS Plaid yn cwestiynu'r Prif Weinidog ynghylch atgyweirio ffyrdd a phontydd
Flwyddyn ar ôl i lifogydd ysgubo pont restredig hanesyddol yn Sir Ddinbych i ffwrdd a chau cyswllt ffordd allweddol yn Nyffryn Llangollen, mae AS Plaid Cymru Llyr Gruffydd wedi holi’r Prif Weinidog ynghylch cyllid ar gyfer atgyweirio ffyrdd a phontydd.
Dywedodd Llyr Gruffydd, AS Gogledd Cymru Plaid Cymru, fod Pont Llannerch ger Trefnant yn Nyffryn Clwyd a'r B5605 sy'n cysylltu Cefn Mawr a Phentre ger Y Waun yn gysylltiadau allweddol i gymunedau lleol.
Darllenwch fwy

Cefnogwch cais #Wrecsam2025
MS yn cefnogi cais diwylliant Wrecsam 2025
Mae Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru yn gwahodd ei gyd-seneddwyr i gefnogi cais Wrecsam ar gyfer Dinas Diwylliant y DU 2025.
Darllenwch fwy