Arweinydd Dros Dro Plaid yn galw am "weledigaeth glir a chydlynol" i leihau nifer y bobl sydd "wedi'u dal mewn tlodi yng Nghymru"
Mae yna ddiffyg dealltwriaeth a chamau gweithredol fydd yn mynd i'r afael ag anghenion 'cymunedau wedi'u gadael ar ôl' gan Weinidogion Cymru a'r DU wedi rhwygo ffabrig cymdeithasol lleol pobl, meddai Arweinydd Gweithredol Plaid Cymru.
Dywedodd Llyr Gruffydd AS, er na ellir esgusodi troseddolrwydd, y dylid deall yn well gan nodi erydiad seilwaith cymdeithasol fel ffactor posib sy'n cyfrannu at yr aflonyddwch yn Nhrelái yn dilyn marwolaeth drasig dau blentyn yn eu harddegau fis diwethaf.
Cyhuddodd Mr Gruffydd Lywodraeth Cymru o "gymryd camau dirnadaeth braidd" i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol amddifadedd ar adeg pan oedd Llywodraeth y DU wedi "troi llygad dall at lefelau tlodi sy'n rhwystredig".
Roedd ffigyrau newydd a gyhoeddwyd ddoe gan Brifysgol Loughborough sy'n dangos bod un o bob pum plentyn ym mhob sir yng Nghymru yn byw mewn tlodi yn amlygu'r angen i ailgyflwyno targedau taclo tlodi plant yng Nghymru - a gafodd eu gollwng gan Weinidogion Cymru yn nhymor diwethaf y Senedd.
Mae disgwyl i Llyr Gruffydd AS, Arweinydd Dros Dro Plaid Cymru, godi pwnc tlodi mewn Cwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw (dydd Mawrth 6 Mehefin).
Wrth siarad cyn FMQs, dywedodd Mr Gruffydd:
"Cawsom i gyd ein hysgwyd gan y digwyddiadau trasig a ddatblygodd yn Nhrelái fis diwethaf.
"Mae erydu seilwaith cymdeithasol yn ffactor sy'n cyfrannu at yr aflonyddwch a digwyddiadau pythefnos yn ôl, ac mae'r rhai a welwyd yn ardal Mayhill, Abertawe yn 2021, yn dangos nad yw'r heriau o fynd i'r afael ag amddifadedd a meithrin cydlyniant cymunedol wedi'u cyfyngu i un cod post penodol.
"Mae tlodi plant, gwaith cyflog isel neu ddiffyg cyflogaeth, a pherthynas wael rhwng yr heddlu a'r gymuned yn broblemau cenedlaethol sy'n gofyn am atebion cenedlaethol.
"Mae'r Prif Weinidog yn iawn i gwestiynu a oedd mwy y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi'i wneud i gymunedau fel Trelái.
"Yn 2021 fe wnaeth yr elusen 'Mind' annog Gweinidogion Cymru i ddatblygu strategaeth gymunedol sy'n mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n wynebu grwpiau penodol fel y gall pawb elwa o fyw mewn cymunedau gwydn.
"Yn anffodus does dim camau pendant wedi eu cymryd.
"Byddai ailgyflwyno targedau tlodi plant, yn ail-ffocysu sylw'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ac fel y dadleuodd Sefydliad Bevan, mae'n gyfle i ddatblygu gweledigaeth glir a chydlynol o sut mae'n bwriadu lleihau nifer y bobl sy'n gaeth mewn tlodi yng Nghymru.
"Dylem fod yn ymdrechu am well na dim ond 'mitigating' gormodedd gwaethaf Llywodraeth y DU sy'n troi llygad dall at lefelau tlodi difrifol, ac yn hytrach yn ceisio'r pwerau a all ddatgloi gwelliannau diriaethol a pharhaol i fywydau sectorau mwyaf bregus ein cymdeithas.
"Ni fydd gwneud dim yn mynd i'r afael â phryderon cymunedau sy'n teimlo eu bod wedi'u bradychu a'u hesgeuluso gan lywodraethau Llafur a Cheidwadol.
"Mae profiadau'r 13 mlynedd diwethaf wedi tanlinellu'n bendant yr angen am ddatganoli pwerau dros les ymhellach yma yng Nghymru, yn unol â'r pwerau sydd eisoes wedi'u harfer gan Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter