"Mae plant ag anghenion dysgu yn cael eu gadael i lawr gan y system"

 

Dywedodd Llyr Gruffydd AS Plaid Cymru yn siambr y Senedd - "Mae gormod o blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu siomi gan y system." Ac aeth ymlaen i ofyn - "Gyda phlant awtistig weithiau'n aros blynyddoedd i gael eu hasesu, sut mae'r Llywodraeth yn mynd i'r afael â'r anghyfiawnder yma?"


Mae pryder cynyddol bod yr holl system gymorth ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn methu. Ychwanegodd Mr Gruffydd sy'n cynrychioli Rhanbarth Gogledd Cymru yn y Senedd-


"Yn aml mae'n rhaid i blant sy'n cael eu cyfeirio am asesiad aros am flynyddoedd am asesiad, a hyd yn oed pan gânt eu diagnosio, nid yw'r gefnogaeth yno i'w helpu."


Yn 2018 pasiodd Llywodraeth Cymru gyfraith sy'n gwneud cefnogi ADY yn flaenoriaeth, a'i bwriad yw symleiddio'r prosesau yn ogystal ag amddiffyn hawliau plant ADY i gael y cymorth sydd ei angen arnynt.

 

Ychwanegodd Llyr Gruffydd -

"Ar hyn o bryd, mae gormod o blant yn syrthio drwy'r rhwyd. Mae rhai yn methu â chael yr asesiad sydd ei angen arnynt, ac mae eraill yn methu â chael y cymorth mwyaf sylfaenol sydd ei angen arnynt i ffynnu.


"Mae'n llawer rhy hwyr i lawer ohonyn nhw - mae blynyddoedd mwyaf tyngedfennol eu haddysg y tu ôl iddyn nhw erbyn iddyn nhw gael unrhyw fath o help."


"Rwy'n galw ar y Llywodraeth i ddatrys hyn fel mater o flaenoriaeth cyn i ni golli mwy o'r genhedlaeth hon i system sydd ymhell o fod yn addas i'r diben."



Mewn ymateb i Llyr Gruffydd, dywedodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:


"Mae 'na arfer da iawn yng Nghymru, ond mae angen i ni wneud mwy i sicrhau bod y gwaith yn cael ei weithredu'n gyson ar draws Cymru, ac mae hynny'n rhywbeth rydw i'n gweithio arno ar hyn o bryd.


"Mae mwy o waith i'w wneud. Rydym wedi cael adborth calonogol gan Estyn, ac ar hyn o bryd maent yn cynnal adolygiad thematig arall."

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Geraint Thomas
    published this page in Newyddion 2024-07-11 16:29:42 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd