Ddoe yn y Senedd gofynnodd Llyr Gruffydd AS a oedd oedolion anabl yng Nghymru yn cael eu plymio'n ddyfnach ac yn ddyfnach i drafferthion ariannol a gofynnodd - beth fydd y llywodraeth yn ei wneud i unioni'r sefyllfa?
Mewn cwestiwn i Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol gofynnodd Llyr Gruffydd -
“A ydych chi’n cytuno nad yw’r cynigion i gynyddu’r cap ar ofal cymdeithasol dibreswyl i oedolion yng Nghymru wedi’u llunio'n ddigonol ac a ydych chi’n cydnabod y bydd hyn mewn gwirionedd yn plymio pobl anabl hyd yn oed yn ddyfnach i drafferthion ariannol?”
Cyflwynwyd y cwestiwn hwn mewn ymateb i adroddiadau gan rwydwaith Ymddiriedolaeth Trussell yng Nghymru eu bod wedi dosbarthu bron i 190,000 o barseli bwyd brys yn ystod y 12 mis o fis Ebrill y llynedd. Dyna'r nifer uchaf o becynnau maen nhw erioed wedi gorfod eu cyflenwi. Yn y cyfnod hwnnw, roedd 73 y cant o’r bobl hynny a atgyfeiriwyd at fanciau bwyd yn bobl anabl, sy’n fwy na dwbl cyfran y boblogaeth sydd wedi’u cofrestru’n anabl.
Yn ogystal â hyn, mewn adroddiad gan Sefydliad Bevan a ryddhawyd y llynedd, amlygwyd nad yw’r argyfwng costau byw yn effeithio ar bawb yn gyfartal, gyda rhai grwpiau’n cael eu taro’n arbennig o galed, gan gynnwys pobl ag anableddau. Amlygodd yr adroddiad fod pobl anabl weithiau, yn aml neu bob amser yn cael trafferth gyda chost eitemau hanfodol 10% yn fwy na chyfartaledd Cymru. Amlygodd hefyd fod 41% o bobol anabl sydd yn rhentu tai yn dweud eu bod weithiau, yn aml neu wastad yn ei chael hi'n anodd fforddio hanfodion byw. Mae pobl anabl ymhlith y rhai mwyaf tebygol o adrodd am dorri’n ôl neu fynd heb fwyd neu wres ac maent mewn mwy o berygl o fod mewn dyled na’r boblogaeth yn gyffredinol.
Mae ymchwil gan yr elusen anabledd Scope yn awgrymu bod costau byw yn uwch ar gyfer pobl ag anableddau, sy'n dangos bod aelwydydd anabl yn gwario £625 yn fwy bob blwyddyn ar gyfartaledd o gymharu â chartrefi nad ydynt yn anabl.
Yn ei hymateb i Llyr Gruffydd, dywedodd Leslie Griffith-
“Fel Llywodraeth, fe fyddwch chi’n gwybod ein bod ni wedi bod yn gweithio gyda phobl anabl i wneud yn siŵr eu bod nhw’n derbyn popeth y dylen nhw ei wneud, ac mae gennym ni hefyd siarter budd-daliadau Cymru, yr wyf yn edrych ymlaen at fwrw ymlaen â hi.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter