Mae Aelod o'r Senedd yn y Gogledd yn gofyn cwestiynau newydd am yr adroddiad hirhoedlog i dân 2020 yn ffatri Kronospan yn Y Waun.
Dywedodd Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ogledd Cymru, Llyr Gruffydd, sydd wedi galw'n gyson am gyhoeddi'r adroddiad i'r tân yn y ffatri sglodion pren, ei fod wedi syfrdanu fod Cyngor Wrecsam wedi gofyn am y holl wybodaeth berthnasol gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru DAIR blynedd wedi'r digwyddiad ar Ionawr 23ain, 2023.
Dywedodd Mr Gruffydd: "Mae'r ymateb Rhyddid Gwybodaeth gan y Gwasanaeth Tân ac Achub, a gynhaliodd ymchwiliad Lefel Un i achos y tân, yn datgan yn glir iawn mai Cyngor Wrecsam yw'r corff sy'n gyfrifol am ymchwilio'r tân. Achosodd y tân bryder mawr yn y gymuned ar y pryd gan arwain at ddatganiad i bobl lleol i gadw eu ffenestri ar gau. Roedd trigolion yn yr ysbyty o ganlyniad ac mae'n hanfodol bod y gymuned yn deall beth ddigwyddodd a'r hyn aeth o'i le.
"Esboniad yr oedi oedd Covid i ddechrau a dwi'n derbyn bod angen blaenoriaethu adnoddau i ddiogelu'r cyhoedd. Ond does dim esgus i'r Cyngor beidio gofyn am yr holl wybodaeth berthnasol gan y Gwasanaeth Tân ac Achub am dair blynedd, fel mae'r FOI yn ei awgrymu.
"Fel mae'r FOI yn dweud bod yr ymchwiliad hon yn ymchwiliad lefel isel yn ôl y Swyddog Ymchwilio, mae'n od iawn nad ydym wedi cael golwg ar ganlyniadau canfyddiadau'r ymchwiliad ers tair blynedd.
"Ni fydd hwn yn mynd ffwrdd - mae pobl yn Y Waun yn ogystal â gweithwyr yn y ffatri yn haeddu gwybod beth ddigwyddodd ar y noson honno ac mae'n hollbwysig bod gwersi'n cael eu dysgu. Sut all hynny ddigwydd os nad oes arwydd o'r ymchwiliad?"
Ychwanegodd Mr Gruffydd: "Mae'r diffyg cyfathrebu gan y Cyngor ynglŷn â'r mater yma, er gwaethaf y diddordeb amlwg a chyfiawnadwy gan y cyhoedd, yn peri pryder. Bydd ond yn ychwanegu at y canfyddiad bod rhywbeth wedi mynd yn ddrwg o'i le o ran yr ymchwiliad. Rwy'n annog Cyngor Wrecsam i gyhoeddi eu canfyddiadau cyn gynted â phosib."
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter