Mae amseroedd aros am llawdriniaeth arferol yn y gogledd yn “annerbyniol’, meddai AS dros yr ardal.
Mae Llyr Gruffydd, o Blaid Cymru, wedi datgan ar ôl i ffigyrau diweddar ddangos bod y rhanbarth hefo rhai o’r amseroedd aros cyfartalog gwaethaf yng Nghymru.
Mae’r Aelod Seneddol wedi beirniadu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gan ddweud bod etholwyr yn “talu’r pris” achos o “anrhefn a camweithredu” yn mudiad.
Galwodd ar Lywodraeth Cymru i “ddod i afael” a’r sefyllfa a dywedodd bod pobl y gogledd yn cael eu “gadael i lawr”.
Yn ôl ffigyrau Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar gyfer 2021-22 yr amser aros cyfartalog am llawdriniaeth arferol yn Wrecsam ydi 143.1 diwrnod. Dyma’r ail amser hiraf yn y wlad.
Yr unig ran o Gymru hefo amser aros gwaeth ydi Abertawe ar 151.8 diwrnod.
Gwynedd sydd a’r trydydd amser aros hiraf yng Nghymru ar 141.7 diwrnod, tra bod Conwy a’r pedwerydd gwaethaf ar 140.9. Sir Ddinbych sydd a’r amser chweched gwaethaf ar 134.2 diwrnod, a Ynys Môn sydd a’r seithfed gwaethaf ar 130.9.
Sir Fflint ydi y sir sydd a’r amser aros cyfartalog byrraf yn y gogledd 118.3. Ond mae’r ffigwr yma dal yn waeth na’r ffigwr cyfartalog i Gymru gyfan, sef 116.5 diwrnod.
Mae ffigyrau Iechyd a Gofal Digidol Cymru hefyd yn cynnwys ystadegau gyfer mathau gwahanol o llawdriniaeth. Maent yn dangos ar gyfer cael llawdriniaeth tonsilau mae pobl yn gorfod aros hiraf yn y gogledd. Yn Wrecsam y ffigwr ydi 451 diwrnod ar gyfartaledd ac yn Sir Ddinbych y ffigwr ydi 448 diwrnod.
I gael amnewidiad clun yr amser aros cyfartalog yng Nghymru oedd 464 diwrnod yn 2021-22, ond ar Ynys Môn cododd i 620, sef ar yr amser ail hiraf yn y wlad. Abertawe ydi’r lle gwaethaf yng Nghymru i gael llawdriniaeth amnewid clun hefo arhosiad cyfartalog o 651 diwrnod.
Cododd adroddiad gan Archwilio Cymru bryderon difrifol am sut mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael ei redeg gan ddweud bod tystiolaeth yn “pwyntio at gamweithredu ac ymbleidiau”.
Amlygodd “holltau clir a dwfn o fewn y tîm gweithredol sydd yn rhwystro’r tîm rhag gweithio yn effeithiol.
Gorfodwyd i Llywodraeth Cymru roi y bwrdd iechyd yn ôl mewn mesurau arbennig yn Chwefror achos o bryderon am ddiogelwch cleifion.
Gorfododd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan i aelodau annibynnol y Bwrdd i gamu i’r naill ochr, gan apwyntio olynyddion i geisio troi pethau o gwmpas.
Hyd hyn mae’r bwrdd iechyd wedi methu recriwtio prif weithredwr newydd er cynnig tal o £225,000.
Dywedodd Llyr Gruffydd MS: “Mae’r ffigyrau diweddar gan Gofal Digidol Cymru yn dangos bod amseroedd aros am llawdriniaeth arferol yn llawer rhy hir.
“Mae trigolion y rhanbarth yn gorfod aros yn lot hirach na pobl mewn rhannau arall o Gymru i gael y llawdriniaeth mae nhw angen, ac yn amlwg mae hyn yn annerbyniol.
“Yn amlwg mae’r anrhefn a camweithredu yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn effeithio gofal cleifion a pobl cyffredin sydd yn talu’r pris tra bod nhw yn dioddef arosiadau hir am llawdriniaeth arferol.
“Tra mae pobl yn aros i gael y triniaeth mae nhw angen mae eu iechyd a llesiant yn tebygol o waethygu. Nid yn unig mae hyn yn achosi dioddef diangen i’r unigolion yna, ond yn y diwedd mae o yn costio mwy i’r NHS yn yr hir dymor.
“Trwy beidio trin pobl yn gynnar mae’r bwrdd iechyd yn creu problemau sydd hyd yn oed yn fwy ar gyfer y dyfodol.
“Mae angen i weinidogion wynebu y ffaith bod y bwrdd iechyd yn rhy fawr a rhy drwsgl i wasanaethu pobl y gogledd yn ddigonol. Ar ôl cyfres o adroddiadau damniol, sydd tro ar ôl tro yn amlygu materion difrifol hefo yr arweinyddiaeth, mae angen i’r Llywodraeth edrych yn iawn ar greu model newydd ar gyfer gwasanaethau iechyd yn y gogledd
“Mae ceisio osgoi bai chwarae o gwmpas gyda cyfres o fesurau gwan wedi cael ei brofi i fod yn hollol annigonol.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter