Angen arian Llywodraeth Cymru i adfer pont hanesyddol

Y Cynghorydd sir Plaid Cymru Meyrick Lloyd-Davies gyda Llyr Gruffydd MS ym Mhont Llannerch

Mae pontydd hanesyddol yng Nghymru yn wynebu bygythiadau cynnyddol oherwydd llifogydd, mae MS Gogledd Cymru yn ofni.

Roedd Llyr Gruffydd, MS Gogledd Cymru Plaid Cymru, yn siarad wedi ymweld â Phont Llannerch ger Trefnant yn Nyffryn Clwyd, a chwalwyd yn llifogydd fis Ionawr, gyda’r cynghorydd lleol Meyrick Lloyd-Davies.

 

Dywedodd Mr Gruffydd: "Mae'r tywydd eithafol yr ydym yn ei brofi yn amlach yn golygu bod mwy o bontydd hanesyddol fel Pont Llannerch dan fygythiad. Mae trigolion lleol eisoes wedi wynebu dargyfeiriadau hir ers mis Ionawr ac roedd yn dda clywed gan Gyngor Sir Ddinbych fod y gwaith bellach yn symud ymlaen i asesu'r opsiynau ar gyfer pont newydd.

"Mae natur hanesyddol y bont a'r angen i'w phrofi yn erbyn llifogydd pellach yn y dyfodol yn golygu bod Adnoddau Naturiol Cymru a CADW yn rhan o'r prosiect yma. Rwy'n deall y bydd adfer pont garreg restredig o'r raddfa yma yn costio llawer o filiynau a bydd angen help ar gynghorau fel Sir Ddinbych i ariannu prosiect mor gostus. Byddwn yn aros am yr astudiaeth ddichonoldeb ond mae'n bwysig nad yw'r strwythur cerrig hanesyddol yn cael ei golli wrth adeiladu pont newydd."

Dywedodd y Cynghorydd Plaid Cymru, Meyrick Lloyd-Davies, sy'n cynrychioli ward Trefnant, ei fod yn ddiolchgar i Llyr Gruffydd am ymweld â'r safle: "Yr hyn sydd ei angen arnom nawr yw i bwysau gael ei roi ar Lywodraeth Cymru i gefnogi'r cyngor er mwyn ail-godi'r bont. Mae trigolion lleol wedi wynebu teithiau hir ychwanegol oherwydd bod y ffordd yma rhwng Trefnant a Tremeirchion ar gau a dwi'n poeni y gallem fod heb bont newydd am flwyddyn arall neu fwy heb arian y llywodraeth."

Ychwanegodd Mr Gruffydd: "Rwy'n gwybod bod y cyngor yn wynebu heriau gyda phontydd eraill ledled y sir ac mae'n rhaid profi llawer o strwythurau yn erbyn newid yn yr hinsawdd, yn enwedig llifogydd, wrth inni symud ymlaen. Mae'n amhosibl i'r cyngor gyflawni prosiectau seilwaith mawr heb gefnogaeth sylweddol. gan Lywodraeth Cymru Nid yw hon yn broblem ynysig ac felly mae angen rhaglen gydlynol arni i sicrhau bod gennym rwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy a gwydn ar gyfer y dyfodol. Dylai CNC a CADW hefyd fod yn dadlau dros gyllid ychwanegol oddiwrth Llywodraeth Cymru. Fel arall, byddwn heb bontydd fel Pont Llannerch am flynyddoedd lawer i ddod."


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Marc Jones
    published this page in Newyddion 2021-09-01 11:37:31 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd