Argyfwng costau byw yn effeithio gwaith canolfan anifeiliaid

O'r chwith: Llyr Gruffydd, AS Gogledd Cymru, gyda Victoria Williams, rheolwr canolfan anifeiliaid Bryn-y-Maen a Billie-Jade Thomas o RSPCA Cymru

Mae'r argyfwng costau byw yn effeithio ar bob agwedd bywyd gan gynnwys anifeiliaid anwes, yn ôl MS yng ngogledd Cymru.

Ymwelodd Llŷr Gruffydd, Aelod o Senedd Plaid Cymru dros y gogledd, â chanolfan anifeiliaid Bryn-y-Maen y RSPCA, ger Bae Colwyn, lle mae 150 anifail yn derbyn gofal ar hyn o bryd. Maent yn amrywio o lygod mawr i bysgod yn ogystal ag amrywiaeth o gathod a chŵn.

Fe wnaeth Mr Gruffydd â Billie-Jade Thomas o'r RSPCA cyfarfod a rheolwr y ganolfan, Victoria Williams, a chlywodd sut mae'r ganolfan yn gweld cynnydd o anifeiliaid yn cael eu gadael oherwydd bod costau cynyddol ac amgylchiadau personol perchnogion yn newid.

Dywedodd: "Mae'r pwysau ar y ganolfan yn cynyddu oherwydd amryw resymau, gan gynnwys yr argyfwng costau byw. Mae'r ganolfan, sydd mewn capasiti, yn gorfod cartrefi  anifeiliaid o bob math o amgylchiadau amrywiol. Mewn rhai amgylchiadau, bydd anifeiliaid yn cael eu cymryd oddi wrth eu perchnogion oherwydd nad ydynt yn gallu gofalu amdanynt ac efallai y bydd rhai hyd yn oed yn destun achos troseddol.

"Roedd yn galonogol clywed bod yr anifeiliaid yn cael y gofal gorau posibl wrth iddynt aros i gael eu hailgartrefu ond mae'n destun pryder bod achosion cynyddol o anifeiliaid yn dod i Fryn-y-Maen angen cymorth ymddygiadol a chefnogaeth arbenigol oherwydd y diffyg gofal y maent wedi'u dderbyn. Mewn un achos, bu'n rhaid achub 110 o lygod mawr o un eiddo yn Lloegr a bu'n rhaid ailgartrefu rhai o'r rheini yma. Mae'n eithaf syfrdanol yr amrywiaeth o anifeiliaid y mae'r tîm yn delio â nhw ym Mryn-y-Maen fel rhan o rwydwaith ehangach y RSPCA ac rwy'n dymuno'r gorau iddynt wrth ddelio â materion yn y dyfodol."


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Gruffudd Jones
    published this page in Newyddion 2023-09-11 10:22:45 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd