Arolwg deintyddion - cyfle i ddweud eich dweud

Mae gwasanaethau deintyddol mewn argyfwng gyda mwy a mwy o ddeintyddion yn cau eu drysau i gleifion y GIG. Rydym yn gweld preifateiddio go iawn ar elfen allweddol o'r GIG gyda degau o filoedd o bobl ledled gogledd Cymru yn methu â chael triniaeth gan ddeintydd. Mae hyn yn cynnwys plant ac mae ganddo oblygiadau hirdymor i iechyd pobl.

Rydym eisiau gwybod beth sy'n digwydd i chi a beth yw eich barn am y gwasanaeth deintyddol.

Cliciwch yma i gwblhau ein harolwg dwy funud. Bydd yr atebion yn helpu llywio ein hymgyrch i wella gwasanaethau deintyddol yng Nghymru.


Dangos 2 o ymatebion

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Glesni Llwyd
    followed this page 2023-05-23 16:51:10 +0100
  • Marc Jones
    published this page in Newyddion 2023-05-19 11:22:16 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd