AS Plaid Cymru yn canmol elusen anabledd blaenllaw

Mae aelod o Blaid Cymru dros Ogledd Cymru, Llyr Gruffydd wedi diolch i elusen flaenllaw am eu gwaith gyda phobl anabl, gan gynnwys aelod o'r teulu a oedd yn byw yng Nghartref Leonard Cheshire.

Ymunodd gwleidyddion, ffrindiau a theuluoedd â phobl anabl ar draws Wrecsam a Sir y Fflint ar gyfer digwyddiad arddangos 'My Voice, My Choice', a gaiff ei redeg gan yr elusen anabledd blaenllaw Leonard Cheshire. Ymysg y gwleidyddion oedd yn bresennol oedd Ken Skates AS a roddodd araith allweddol ar gynhwysiant cymdeithasol, gyda Sam Rowlands AS a Llyr Gruffydd AS hefyd yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb fywiog ar ymgyrchu ac eiriolaeth.

Ymunodd Maer Wrecsam â chyfranogwyr a gwleidyddion ynghyd â sefydliadau ac elusennau Cymreig, megis Gofalwyr Ifanc, Hft ac Sign-Sight-Sound. Codwyd y cyfranogwyr ymwybyddiaeth o'r materion o ddydd i ddydd maent yn eu hwynebu, gan drafod cynhwysiant cymdeithasol, hygyrchedd ac iechyd meddwl.

Dywedodd Llyr Gruffydd: "Rwyf wedi gweld drosof fy hun y gwaith rhagorol a wnaed gan gartref Leonard Cheshire yn Dolywern, a ofalodd am aelod o'r teulu am nifer o flynyddoedd. Rwy'n gwybod pa mor galed y mae'r staff yn gweithio i sicrhau'r gofal a'r cynhwysiad gorau posib i bobl ac mae rhaglen My Voice, My Choice yn enghraifft wych o hynny."

Dywedodd Lauren, un o gyfranogwyr My Voice, My Choice: "Roeddwn yn falch iawn o gael fy nhystysgrif a siarad ag Aelodau'r Senedd am y rhaglen a'r materion sy'n effeithio ar bobl anabl yn y gymuned leol".

Roedd rhai o'r cyfranogwyr hefyd yn rhoi cyflwyniadau am yr hyn roedden nhw wedi'i ddysgu drwy gydol rhaglen My Voice, My Choice. Siaradodd Alicia Gough am ei llyfr 'The Hand that tells the Story: Living with my Disability', tra bod mynychwyr eraill wedi gwneud arddangosiad celf byw a darllen barddoniaeth. Gorffennodd preswylwyr cartref gofal Dolywern drwy gymryd rhan mewn perfformiad mewn grwpiau.

Meddai Alicia Gough: "Mae hi wedi bod yn wych bod yn rhan o raglen My Voice, My Choice, mae mor bwysig bod lleisiau anabl yn cael eu clywed yng nghoridorau grym ac rwy'n ddiolchgar iawn bod Aelodau'r Senedd a'r Maer wedi ymuno â ni i ddathlu."

I orffen y digwyddiad dathlu, rhoddodd Louisa Bottomley o The Flamingo Lounge ddisgo cynhwysol, lle'r oedd gan y cyfranogwyr hefyd siawns ar y system karaoke.

Daeth y arddangosfa fel rhan o brosiect Cronfa Gymunedol 'My Voice, My Choice' y Loteri Genedlaethol, sydd hefyd wedi gweld Leonard Cheshire yn cynnal cyfres o weithdai llwyddiannus yn Wrecsam, Sir y Fflint, Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot a Bro Morgannwg.

Dywedodd Leonard Cheshire Director for Policy, Gemma Hope: "Mae pobl anabl yn lleisio mor aml iawn beth mae rhaglen My Voice, My Choice' yn ei wneud yw galluogi grwpiau o bobl anabl i yrru newid cymunedol, trwy eu darparu gyda sgiliau ymgyrchu ac eiriolaeth. Mae'n hyfryd gweithio gyda Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gyflawni'r prosiect hwn ledled Cymru ac edrychwn ymlaen at barhau i wneud hynny mewn 10 lleoliad arall dros y ddwy flynedd nesaf."

Y cam nesaf i Wrecsam a Sir y Fflint yw i Leonard Cheshire helpu i sefydlu panel dinasyddion, a fydd yn ymgyrchu ar y pynciau pwysig a godwyd drwy gydol rhaglen My Voice, My Choice. Cynhelir sesiwn wybodaeth sy'n rhoi mwy o wybodaeth ar Banel y Dinesydd a sut gallwch gymryd rhan ar noson 20 Hydref 2022 rhwng 6pm a 7.30pm. Am fwy o wybodaeth fanwl am sut y gallwch ymuno cysylltwch â Lorna Wilcox-Jones ar [email protected]


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Gruffudd Jones
    published this page in Newyddion 2022-10-06 11:16:31 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd