AS wedi ‘siomi’ bod cangen Halifax Dinbych yn cau

Mae AS yn dweud ei fod wedi “siomi” bod cangen Halifax Dinbych yn cau ar Ragfyr y 4ydd.

Mae Llŷr Gruffydd, o Blaid Cymru, sydd yn cynrychioli Gogledd Cymru yn y Senedd wedi datgan ei farn yn sgil y newyddion bydd trigolion y dre yn cael eu gadael heb fanc ar y stryd fawr.

Mae’r gwleidydd, o Blaid Cymru, wedi galw ar y grŵp bancio i “ailfeddwl” y penderfyniad.

Mae Dinbych wedi colli canghennau NatWest, Barclays ac HSBC yn barod.

Achos o newyddion o’r newyddion diweddaraf y bydd cwsmeriaid Halifax o Ddinbych yn gorfod teithio i Rhyl neu’r Wyddgrug i fynd i’r cangen agosaf.

Dywedodd Llŷr Gruffydd AS: “Rydw i wedi siomi yn arw hefo penderfyniad Halifax i gau y gangen yn Ninbych.

“Mae hyn yn ergyd enfawr i’r gymuned leol, ac i fusnesau a’r trigolion sydd yn dibynnu ar y gangen ar y stryd fawr i gael mynediad i wasanaethau bancio hanfodol. 

“Rydw i yn annog Halifax i ailfeddwl y penderfyniad yma, a fydd yn cael effaith negyddol ar bobl yr ardal.

“Mae Dinbych wedi colli canghennau NatWest, Barclays a HSBC yn barod ac ar ôl y newyddion diweddaraf bydd trigolion y dref heb fanc ar y stryd fawr o gwbl.

“Mae o yn destun tristwch ein bod yn gweld mwy a mwy o gymunedau ar draws Cymru yn troi fewn i ddiffeithdiroedd ariannol, lle mae cael mynediad i wasanaethau bancio yn fewn i foesuthrwydd. 

“Fydd y newyddion yma yn destun pryder i gwsmeriaid, yn enwedig rhai dydd ddim yn medru gwneud eu bancio arlein.

“Beth bynnag mae’r banc yn dweud, mae o yn anochel y bydd y penderfyniad yma yn arwain at bobl sydd yn cael trafferth cael mynediad i wasanaethau digidol yn syrthio yn bellach tu ôl.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Marc Jones
    published this page in Newyddion 2023-08-11 13:13:05 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd