Mae AS wedi annog Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru i gefnogi gweithwyr sydd yn cael ei haffeithio gan siopau Wilko yn cau ar draws y gogledd.
Cododd Llyr Gruffydd, sydd yn cynrychioli Gogledd Cymru yn y Senedd, y mater hefo Vaughan Gething yn sgil y newyddion bod yr adwerthwr stryd fawr yn cau ei 400 siop yn y DU, sydd yn golygu bod 12,500 o weithwyr yn gwynebu colli gwaith.
Er bod Poundland wedi cytuno i gymryd drosodd prydlesi 71 o’r siopau a bod B&M wedi prynu 51, nid oes newyddion bod prynwyr ar gyfer lleoliadau Wilko yn Y Rhyl, Llandudno, Wrecsam a Porthaethwy.
Yn yr Haf dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford bod Llywodraeth Cymru hefo twll o £900m yn ei gyllideb.
Galwodd Mr Gruffydd, o Blaid Cymru, ar weinidogion i sicrhau bod cyllidebau ar gyfer rhaglenni y gall helpu gweithwyr Wilko sydd yn colli eu swyddi yn cael eu “gwarchod”.
Tra’n siarad yn y Senedd, dywedodd Llyr Gruffydd AS: “Yn amlwg, mae trefi fel Caergybi, Llandudno, Wrecsam a Rhyl yn mynd i wynebu naill ai wedi cau neu ar fin cau o safbwynt Wilko yn y trefi hynny.
“Clywon ni yn gynharach sut mae hynny'n gadael bwlch ar y stryd fawr, ac yn amlwg mae hynny yn tanseilio hyfywedd ehangach, efallai, rhai o'r canolfannau trefol hynny.
“Ond o safbwynt y gweithwyr yn benodol, mi gyfeirioch chi at y gefnogaeth a'r rhaglenni sydd ar gael.
“Pa sicrwydd allwch chi ei roi, er mor anodd yw hi, y bydd cyllidebau'r rhaglenni hynny yn cael eu gwarchod yn y cyfnod sydd i ddod oherwydd, yn amlwg, rŷn ni'n clywed am y toriadau sydd yn digwydd o fewn y Llywodraeth?
“Mae yna berygl, wrth gwrs, o leihau'r ddarpariaeth gefnogol yna, y bydd yr effaith gymaint, gymaint yn waeth. Felly, pa sicrwydd allwch chi roi y bydd y cyllidebau yna'n cael eu hamddiffyn, lle gallwch chi?”
Atebodd Vaughan Gething: “Rydw i’n meddwl y gallai roi y sicrwydd i’r Aelod y byddwn yn cefnogi gweithwyr yn yr ardaloedd angenrheidiol lle mae gennym yr adnoddau i wneud hynny.
“Mae Wilko yn esiampl anodd achos rhyngddynt mae Poundland a B&M wedi prynu o gwmpas 120 o siopau, ond nid ydym yn siŵr ym mhle mae i gyd o’r lleoliadau yna eto. Felly mae hynny yn creu ansicrwydd i nifer o weithwyr yng Nghymru ac ar draws y DU.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter