AS yn beirniadu “addewid gwag” Sunak ar drydanu rheilffyrdd Gogledd Cymru

Mae AS wedi beirniadu “addewid gwag” Rishi Sunak ar drydanu rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru.

Dywedodd Llyr Gruffydd, sydd yn cynrychioli y rhanbarth yn y Senedd, nad yw hi’n bosib ymddiried yn y Prif Weinidog Torïaidd i gadw at yr addewid.

Datgelodd Sunak yn ddiweddar Llywodraeth Prydain yn torri yr addewid i adeiladu y rhan gogleddol o HS2 yn Lloegr.

Aeth ymlaen i awgrymu y bydd y £36bn ar gyfer y prosiect yn cael ei ddefnyddio i fuddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd yn “y gogledd” a fyddai’n cynnwys £1bn i drydanu rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru.

Mae addewidion Sunak wedi cychwyn syrthio yn ddarnau yn barod hefo Llywodraeth Prydain yn gwneud tro pedol ar yr ymrwymiad i ailagor rheilffordd Leamside yng Ngogledd Lloegr, dim ond 24 awr ar ôl ei gyhoeddi.

Atgoffodd Mr Gruffydd bod y llywodraeth Doraidd yn San Steffan wedi addo trydanu rheilffordd De Cymru rhwng Caerdydd ac Abertawe cyn gwneud tro pedol.

Dywedodd yr arbenigwr trafnidiaeth yr Athro Stuart Cole, o Brifysgol De Cymru, y byddai yn costio o leiaf £1.5bn, nid yr £1bn mae Sunak wedi crybwyll.

Mae Plaid Cymru wedi adnewyddu y galwad i Llywodraeth Prydain i drosglwyddo y gyllid sydd yn ddyledus i Gymru achos o HS2, sydd wedi cael ei amcangyfrif i fod y £2.5bn erbyn hyn.

Mae gweinidogion Torïaidd yn dadlau mai prosiect Lloegr a Cymru ydi HS2 a nad yw’r arian yn ddyledus achos o hyn. Mae hyn er bad oes un metr o drac yn cael ei osod yng Nghymru.

Mae yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi derbyn biliynau o bunnoedd mewn cyllid achos o HS2.

Dywedodd Mr Gruffydd: “Mae’r llywodraeth Doriaidd yn San Steffan wedi profi tro ar ôl tro nad yw hi’n bosib ymddiried ynddo. Dydi hyn ddim mwy nag addewid gwag gan Brif Weinidog anobeithiol sydd yn palu celwyddau.

“Mae’r Torïaid wedi addo adeiladau y rhan gogleddol o HS2 yn Lloegr, ac rydym i gyd yn gwybod sut trodd hynny allan.

“Dydyn ni methu credu gair mae’r Torïaid yn ei ddweud ar drydanu. Gwnaethpwyd addewid i drydanu rheilffordd De Cymru rhwng Caerdydd ac Abertawe cyn gwneud tro pedol.

“Mae wedi bod angen trydanu rheilffyrdd Gogledd Cymru ers tro, ond mae’n glir bod y gost yn agosach i £1.5bn nag yr 31bn mae nhw wedi crybwyll.

“Mae angen cofio hefyd bod Llywodraeth Prydain yn gwrthod trosglwyddo’r biliynau o bunnoedd sy’n ddyledus i Gymru achos o HS2 trwy ddweud ei fod yn brosiect Lloegr a Cymru.

“Maent yn parhau i ddweud hyn er nad oes metr o drac yn cael ei osod yng Nghymru

“Mae’r sefyllfa yn profi yr hyn mae Plaid Cymru wedi bod yn dweud am flynyddoedd sef nid yw hi’n bosib ymddiried mewn gwleidyddion y weithredu er budd Cymru.

“Dyna pam mae hi yn angenrheidiol i ni gael rheolaeth dros seilwaith y rheilffyrdd yng Nghymru ar frys.

“Hefo Plaid Lafur Keir Starmer yn San Steffan yn gwrthod ymrwymo i drosglwyddo yr arian o HS2 sydd yn ddyledus y mae hi yn dod yn gliriach bob dydd mai dim ond Plaid Cymru sy’n siarad dros Gymru.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Marc Jones
    published this page in Newyddion 2023-10-06 15:58:16 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd