Mae AS wedi croesawu addewid gan weinidog i gyd-weithio gyda’r Sioe Frenhinol a’r Eisteddfod ar ddiwygio gwyliau ysgol.
Mae Llŷr Gruffydd, sydd yn cynrychioli Gogledd Cymru yn y Senedd, wedi annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y ddau ŵyl ddim yn cael eu niweidio gan unrhyw newidiadau posib i’r flwyddyn ysgol.
Mae’r gwleidydd, o Blaid Cymru, sydd yn Weinidog Cysgodol ar gyfer Materion Gwledig, wedi derbyn
Gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Llywodraeth Cymru, Lynne Neagle, yn y Senedd.
Mae hyn yn dilyn y newyddion bod Llywodraeth Cymru wedi gohirio eu cynllun dadleuol i newid y gwyliau ysgol.
Mae’r Llywodraeth wedi dweud na fydd unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud yn ystod y tymor Senedd yma ond y bydd yn gweithio ar opsiynau posib yn ystod y flwyddyn.
Buasai’r cynnig wedi gweld y gwyliau haf ar gyfer disgyblion yn g Nghymru yn cael ei leihau un wythnos o 2026, gyda’r wythnos yna yn cael ei adio i beth sydd yn bresennol yn wyliau un wythnos hanner tymor yn yr Hydref.
Ymunodd y Sioe Frenhinol a’r Eisteddfod genedlaethol i wrthwynebu y cynnig, gyda trefnwyr yn rhybuddio y byddent yn cael effaith niweidiol.
Buasai y newidiadau wedi golygu y byddai ysgolion dal ar agor yn ystod y Sioe Frenhinol, sydd yn draddodiadol yn digwydd yn flynyddol yn ystod wythnos gyntaf y gwyliau haf.
Yn ôl trefnwyr os buasai disgyblion a’u teuluoedd ddim yn mynychu y digwyddiad achos eu bod yn y ysgol buasai hynny yn arwain at golli mwy na £1m.
Dywedodd Llyr Gruffydd AS: “Dwi'n meddwl bod cymryd cam yn ôl yng ngoleuni'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn gam synhwyrol.
“Dwi'n synnu bod yna ddim cyfeiriad penodol yn eich datganiad chi at yr effaith y byddai rhai o'r cynigion wedi'i chael ar y sioe fawr a'r Eisteddfod Genedlaethol, yn enwedig gan fod hynny wedi bod yn nodwedd flaenllaw iawn yn y crynodeb rŷch chi wedi'i gyhoeddi heddiw o'r ymatebion, ac yn sicr rhywbeth roeddem ni, fel plaid, wedi gwneud yn glir ynglŷn â'n gwrthwynebiad ni i newidiadau fyddai'n cael effaith negyddol ar y sioe neu'r Eisteddfod.
“Rŷch chi wedi dweud na fydd yna benderfyniad terfynol, felly, yn cael ei wneud yn y Senedd yma, ond yn eich datganiad, rŷch chi hefyd yn dweud y byddwch chi nawr, fel Ysgrifennydd Cabinet ac fel Llywodraeth, yn parhau i archwilio'r ail gynnig yn benodol yn yr ymgynghoriad yn ystod gweddill y Senedd yma.
“Ond, wrth gwrs, mi oedd hwnnw'n un o'r cynigion fyddai wedi cael effaith ar y sioe frenhinol yn enwedig.
“Felly, allwch chi gadarnhau, wrth ichi ddatblygu'r gwaith yna, nid yn unig y byddwch chi'n ymwybodol o'r angen i warchod buddiannau'r sioe fawr a'r Eisteddfod, ond y byddwch chi'n sicrhau na fydd unrhyw newid yn y pen draw yn arwain at effaith negyddol ar y gwyliau hynny?”
Dywedodd Lynne Neagle: “Fel y dywedwch chi, fe gafodd y Sioe Frenhinol a'r Eisteddfod eu cynnwys yn yr ymgynghoriad ac mae trafodaethau wedi bod gyda sefydliadau perthnasol mewn perthynas â hynny.
“Rwyf am fod yn glir iawn, serch hynny, fy mod i'n credu bod hwn yn benderfyniad y mae'n rhaid ei wneud ar sail yr hyn sydd orau i blant a phobl ifanc, ond rwy'n gwybod hefyd fod cymunedau yng Nghymru sydd wir yn gwerthfawrogi mynd â'u plant a'u pobl ifanc i ymweld â'r Sioe Frenhinol.
“Yn wir, roedd yr ymgynghoriad ei hun yn adlewyrchu'r angen i wneud yn siŵr bod digwyddiadau mawr yn cael eu darparu ar eu cyfer yn hynny o beth. Felly, rwy'n deall bod hyn yn achos pryder i Aelodau sy'n cynrychioli ardaloedd gwledig, ac fe allaf eich sicrhau y byddwn ni'n parhau i ymgysylltu â'r Sioe Frenhinol, yr Eisteddfod a sefydliadau eraill ynglŷn â hyn wrth i ni fwrw ymlaen â'r gwaith hwn.”
Yn siarad ar ôl y ddadl, dywedodd Llyr Gruffydd: “Rydw i yn croesawu addewid Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i weithio gyda’r Sioe Frenhinol a’r Eisteddfod ac mudiadau eraill ar ddiwygio y calendr ysgol.
“Nawr mae angen i Llywodraeth Cymru sicrhau bod unrhyw newidiadau ddim yn newidio y digwyddiadau eiconig yma.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter