AS yn croesawu cyfle i drigolion ddweud eu dweud ar gynnig i gynyddu Treth Cyngor ar ail dai

Mae AS wedi croesawu cyfle i drigolion yn Sir Ddinbych i ddweud eu dweud ar gynnig i gynyddu Treth Cyngor ar gartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi.

Mae Llyr Gruffydd, o Blaid Cymru, sydd yn cynrychioli Gogledd Cymru yn y Senedd wedi annog etholwyr i ddatgan eu barn ar ymgynghoriad sydd wedi cael ei lansio gan Cyngor Sir Ddinbych ar y cynnig.

Bwriad yr awdurdod lleol ydi codi tâl premiwm ar gyfer Treth y Cyngor o 100% ar gartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi o Ebrill 2024, ac wedyn i 150% o Ebrill 2025.

Maent hefyd yn cynnig bod eiddo gwag hirdymor sydd wedi bod yn wag a heb ddodrefn am 5 mlynedd neu fwy yn talu premiwm uwch o 50% yn fwy na’r premiwm safonol. Er enghraifft i 150% o fis Ebrill 2024 a 200% o fis Ebrill 2025.

Fel rhan o’r cytundeb cydweithio gyda Plaid Cymru, newidiodd Llywodraeth Cymru ddeddfwriaeth er mwyn roi grymoedd i awdurdodau lleol yng Nghymru i gynyddu premiwm Treth y Cyngor ar yr eiddo hyn hyd at 300%.

Cafodd y ddeddfwriaeth ei ddylunio er mwyn atal ail gartrefi rhag niweidio cymunedau ac i helpu ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd er budd y gymuned. 

Dywedodd Llyr Gruffydd AS: “Mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod y farchnad tai yn adlewyrchu anghenion y gymuned leol.

“Mae’n fater o degwch ar gyfer pobl lleol. Ni ddylai pobl lleol gael eu gwthio o’u cymunedau tra bod cartrefi yn wag neu oherwydd bod perchnogaeth ail gartrefi wedi cynyddu prisiau tai i lefelau hurt.

“Mae awdurdodau lleol ar hyd a lled Cymru wedi ymateb mewn ffordd positif i’r premiwm sydd wedi cael eu cyflwyno drwy cytundeb cydweithio Plaid Cymru hefo Llywodraeth Cymru, ac mae’n dda gweld Cyngor Sir Ddinbych yn gwneud yr un fath.

“Dyma gyfle pwysig i gymunedau lleol i ddweud eu dweud ac rydw i’n annog trigolion i ymateb i’r ymgynghoriad yma er mwyn rhannu eu barn. Os ydym am gadw ein cymunedau yn rai bywiog, mae angen i ni sicrhau bod gennym ddigon o gartrefi fforddiadwy ar gyfer pobl lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Gyllid: “Trwy’r cytundeb cydweithio gyda Plaid Cymru, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y pwerau ychwanegol hyn i helpu Cynghorau i annog perchnogion tai i ddod â chartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi yn ôl i ddefnydd er budd y gymuned a’r economi leol.

“Bydd y fenter hon yn ein cynorthwyo yn ein huchelgais i ddatblygu'r economi leol a chreu cymunedau bywiog. Rydym yn annog pobl sydd â diddordeb yn y mater hwn i fynegi eu barn.”

Mae cartref gwag hirdymor yn un sy'n wag ac yn sylweddol heb ddodrefn am gyfnod di-dor o flwyddyn o leiaf, tra mae ail gartref yn eiddo sydd wedi’i ddodrefnu’n sylweddol, nad yw’n unig nac yn brif breswylfa person.

Cyflwynwyd y pwerau er mwyn helpu cynghorau i annog perchnogion cartrefi i beidio gadael eiddo yn wag yn ddiangen ac am gyfnodau hir.

Gallwch ddweud eich dweud ar gynnig Cyngor Sir Ddinbych drwy gwblhau arolwg byr ar-lein ar https://countyconversation.denbighshire.gov.uk/projectcy/717 neu mae mynediad at gyfrifiadur a chopïau papur ar gael ym mhob un o Lyfrgelloedd a Siopau Un Alwad Sir Ddinbych.

Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg o ddydd Gwener 26 Mai 2023 tan ddydd Mercher 21 Mehefin 2023 a bydd y canfyddiadau’n cael eu hadrodd i gyfarfod llawn o’r Cyngor yn ddiweddarach yn 2023.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Marc Jones
    published this page in Newyddion 2023-06-02 14:48:07 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd