Mae AS wedi croesawu disgyblion “brwdfrydig” o Sir Fflint i’r Senedd.
Dangosodd Llŷr Gruffydd, bobl ifanc o Ysgol Glanrafon, Ysgol Terrig, Ysgol Gwenffrwd, Ysgol Croes Atti o gwmpas y Senedd.
Siaradodd y gwleidydd o Blaid Cymru, sydd yn cynrychioli Gogledd Cymru yn y Senedd as sydd yn Weinidog Cysgodol ar gyfer Materion Gwledig am ei rôl yn siarad ar ran etholwyr yn o gystal a craffu a herio Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Llŷr Gruffydd AS: “Roedd o yn wych y gael y cyfle i groesawu disgyblion o gymaint o ysgolion gwahanol yn Sir Fflint i’r Senedd,
“Digon bosib bod yna rai o wleidyddion y dyfodol yn ei mysg achos ni fuasai llawer eu cwestiynau allan o’u lle yn cael eu gofyn ar lawr y Senedd.
“Dangosodd y disgyblion frwdfrydedd go iawn am wneud y wlad yn well lle ac roeddent yn amlwg yn frwdfrydig i ddysgu achos gofynnwyd nifer o gwestiynau heriol a meddylgar.
“Roedden nhw hefyd eisiau gwybod am fy ngwaith fel Aelod o’r Senedd ac am sut rydw i yn siarad ar ran etholwyr.
“Yn o gystal a hynny roedden nhw hefyd eisiau gwybod sut y gallent ymwneud mwy a gwleidyddiaeth a sut y gallent wthio y materion sydd yn bwysig iddyn nhw yn uwch fyny yr agenda gwleidyddol.
“Mae o yn oll bwysig i’n democratiaeth yng Nghymru bod pobl ifanc yn dod i ddeall sut mae’r Senedd yn gweithio a sut i ymwneud gyda fo.
“Rydym ni angen cael gymaint o bobl ifanc a phosib i ymwneud a’r broses gwleidyddol achos mae’r Senedd yn cymryd penderfyniadau pwysig sydd yn cael effaith ar eu bywydau dydd i ddydd a’u teuluoedd.
“Mae o wastad yn andros o galonogol ac yn ysbrydoliaeth i weld pobl ifanc yn cymryd diddordeb mor frwd yng ngwleidyddiaeth Cymru.
Wnaeth y disgyblion gyfarfod Hannah Blythin AS yn ystod yr ymweliad hefyd.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter