Mae AS wedi croesawu disgyblion o ysgol yng Nghonwy i’r Senedd.
Cymerodd Llŷr Gruffydd, sydd yn cynrychioli Gogledd Cymru, ddisgyblion o Ysgol Bro Gwydir in Llanrwst o gwmpas y Senedd.
Cafodd y criw o bobl ifanc y cyfle i ofyn cwestiynau “meddylgar” tra roeddwn nhw yn am ddemocratiaeth Cymru.
Siaradodd Mr Gruffydd, o Plaid Cymru, sydd yn Weinidog Cysgodol Materion Gwledig ei blaid, am ei waith yn sefyll fyny dros etholwyr fel aelod o’r Senedd.
Dywedodd Llŷr Gruffydd AS: “Roedd hi’n bleser pur i groesawu disgyblion o Ysgol Bro Gwydir i’r Senedd.
“Mae o’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod pobl ifanc yn ran o’r broses democrataidd yng Nghymru achos ar ddiwedd y dydd nhw ydi dyfodol ein gwlad.
“Dyna pam roedd i more hyfryd i weld y brwdfrydedd y disgyblion yma am ddysgu sut mae democratiaeth yn gweithio yng Nghymru a deall sut y gallent ei siapio er bydd ein cymunedau.
“Roedden nhw yn frwd am ddysgu sut i gael y materion sydd yn effeithio nhw yn uwch fyny yr agenda gwleidyddol.
“Gofynnwyd cwestiynau meddylgar fysa ddim wedi bod allan o le yn siambr y Senedd. Ella bod rhai o wleidyddion y dyfodol yn eu mysg. Dangoswyd brwdfrydedd am wneud y gwlad yn lle gwell.
“Mae ymweliad y bobl ifanc yma i’r Senedd yn rhoi hyfer o fi bod dyfodol ein democratiaeth yng Nghymru mewn dwylo diogel.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter