Mae AS wedi galw am ariannu digonol ar gyfer hosbisau yng Ngogledd Cymru sy’n gwynebu gorfod gwneud toriadau.
Dywedodd Llyr Gruffydd, sydd yn cynrychioli’r rhanbarth yn Y Senedd, ei fod yn “poeni” ar ôl clywed bod 90% o hosbisau Cymraeg yn cyllido am ddiffyg ariannol 2023/24.
Mae o wedi dweud wrth weinidogion Llywodraeth Cymru eu bod nhw angen “sicrhau bod y sector hefo’r adnoddau angenrheidiol.
Mae Gogledd Cymru yn gartref i sawl hosbis, yn cynnwys Hosbis St Kentigern yn Llanelwy, Hosbis Tŷ’r Eos yn Wrecsam, Tŷ Gobaith yng Nghonwy, a Hosbis Dewi Sant, sydd hefo lleoliadau yn Llandudno, ym Mangor ac ym Mhorthaethwy.
Mae hosbisau elusennol yn darparu gofal critigol i dros 20,000 o bobl sy’n cael eu heffeithio gan salwch angheuol yng Nghymru bob blwyddyn.
Cafodd Mr Gruffydd, o Blaid Cymru gyfarfod gyda aelodau o Hospices Cymru i glywed am y cyfraniad gwerthfawr mae’r trydydd sector yn gwneud i ofal lliniarol a diwedd oes.
Oes mae hosbisau yn gorfod gwneud toriadau i wasanaethau dywedodd y byddai hynny yn cynyddu pwysau ar GIG Cymru.
Mae darparwyr gofal diwedd oes elusennol yn gwynebu heriau anodd ar amser o gynnydd mewn angen.
Mae’r nifer o blant hefo salwch sy'n cyfyngu ar fywyd yn cynyddu, gyda 1 mewn 172 o dan 18 oed yn cael eu heffeithio.
Mae Hospices Cymru yn cynrychioli 15 hosbis elusennol sydd yn darparu gofal angenrheidiol i bobl hefo salwch sy'n cyfyngu ar fywyd a salwch terfynol ar draws y wlad.
Mae aelodau y mudiad yn gweithio i sicrhau mynediad cyfartal i ofal hosbis a lliniarol ansawdd uchel, wedi ei ddarparu yn eu lle dewisol ac sydd yn cefnogi ac yn gofalu am eu teuluoedd a’u anwyliaid.
Dywedodd Llyr Gruffydd AS: “Yn aml mae’r gofal hanfodol y mae hosbisau yn eu darparu, nid yn unig o bobl hefo salwch terfynol yn cael ei tan-werthfawrogi.
“Mae eu gallu i ddarparu y gwasanaethau yma yn dibynnu arnynt yn derbyn y gyllid angenrheidiol i wneud hynny.
“Rydw i yn pryderu clywed bod 90% o hosbisau Cymru yn cyllido am ddiffyg ariannol yn 2023/24 a bod nifer o ddarparwyr yn cysidro gwneud toriadau i wasanaethau achos o hynny.
“Buasai hyn nid yn unig yn effeithio y bobl sydd yn dibynnu ar y gwasanaethau yma, ond hefyd yn rhoi mwy o straen ar GIG Cymru
“Yn yr adolygiad gofal lliniarol mae gweinidogion Llywodraeth Cymru hefo dyletswydd i sicrhau bod y sector yn cael yr adnoddau angenrheidiol.
“Ar Wythnos Gofal Hosbis, rydw i eisiau cynnig fy nghefnogaeth i hosbisau ar draws Gogledd Cymru a rhoi diolch iddynt am y gwaith hynod o bwysig y maent yn eu wneud.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter