Mae AS wedi galw am safonau’r iaith Gymraeg gael eu ehangu i’r sector bancio.
Siaradodd Llŷr Gruffydd, sydd yn cynrychioli Gogledd Cymru yn y Senedd, am y mater yn ystod trafodaeth am y gyfundrefn pan gododd penderfyniad HSBC i ddiddymu eu llinell gymorth Cymraeg.
Wnaeth yr AS o Blaid Cymru herio Gweinidog yr Iaith Cymraeg Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles am y mater ar lawr y Senedd.
Mae HSBC wedi gwynebu beirniadaeth llym am y penderfyniad i ddiddymu y linell gymorth iaith Gymraeg ar gyfer cwsmeriaid. Ond mae’r banc wedi gwrthod newid y penderfyniad.
Ers Ionawr 15, dim ond staff iaith Saesneg sydd wedi bod ar gael i ateb ymholiadau cwsmeriaid HSBC. Erbyn hyn mae cwsmeriaid sydd eisiau ymateb Cymraeg yn gorfod aros am alwad yn ôl.
Cyn i’r linell gymorth gael ei ddiddymu, roedd yn derbyn 22 galwad y diwrnod ar gyfartaledd. Ond ers symud i’r system newydd, dim ond 17 cais mae nhw wedi derbyn dros gyfnod o 3 mis.
Dywedodd Mr Gruffydd ei fod yn “amlwg nad yw'r gyfundrefn newydd yna'n gweithio”.
Cafodd gwleidyddion o Gymru gael gwybod am benderfyniad y banc i ddiddymu y gwasanaeth iaith Gymraeg mewn llythyr ar Dachwedd 8, 2023.
Ysgrifennodd Bwyllgor Diwylliant y Senedd at y banc yn ei gyhuddo o ddangos “dirmyg” tuag at siaradwyr Cymraeg.
Ar y pryd dywedodd Mr Gruffydd bod y penderfyniad yn “annerbyniol” ac yn “hynod o amharchus i siaradwyr Cymraeg”.
Galwodd r HSBC i “fuddsoddi” yn ddigonol yn y gwasanaeth am o leiaf 12 mis yn lle ei ddiddymu a bod hyn yn cynnwys sicrhau ei fod yn cael ei “hysbysebu” yn iawn.
Wrth annerch y Gweinidog ar lawr y Senedd, dywedodd Llŷr Gruffydd AS: “Rŷch chi eisoes y prynhawn yma wedi sôn eich bod chi'n siomedig ynglŷn â phenderfyniad HSBC i ddod i ben â'u gwasanaeth llinell gymorth Gymraeg.
“Nawr, ar y pryd, roedden nhw'n derbyn 22 galwad y dydd i'r llinell Gymraeg yna. Ers symud i fodel ble mae pobl yn cael gofyn am alwad yn ôl, maen nhw ond wedi derbyn 17 cais mewn cyfnod o dri mis.
“Felly, mae'n amlwg nad yw'r gyfundrefn newydd yna'n gweithio, ac mae'n amlwg nad yw y sector bancio, ar y cyfan, yn cwrdd ag anghenion siaradwyr Cymraeg, nac, yn wir, yn darparu gwasanaethau sylfaenol yn ein hiaith ni ein hunain.
“Nawr, gaf i ofyn, felly—? Rŷch chi eisoes wedi dweud nad ydych chi'n hapus â hynny, ac rŷch chi'n derbyn ei fod e'n annerbyniol.
“Y cwestiwn yw, felly: beth rŷch chi'n gwneud am y peth? Mi allech chi ddod â banciau o dan safonau'r iaith Gymraeg, felly pam na wnewch chi hynny?”
Yn ymateb cadarnhaodd Jeremy Miles bod gan y Senedd y grym i “ymestyn ar gyfer rhai elfennau o'r sector preifat, ond bydd angen diwygio pellach er mwyn ymestyn i gyffwrdd â'r holl rŷn ni wedi eu trafod heddiw.”
Adiodd: “. Rwy'n credu bod achos i edrych ar hyn, ond, yn anffodus, ar gyfer y Senedd nesaf y bydd hynny, yn ymarferol.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter