AS yn ‘pryderu’ ar ôl i 10% o feddygfeydd meddygon teulu yng Ngogledd Cymru gau mewn degawd

Mae AS wedi dweud ei fod yn “pryderu” ar ôl i 10% o feddygfeydd meddygon teulu yng Ngogledd Cymru gau mewn degawd.

Rhybuddiodd Llyr Gruffydd, sydd yn cynrychioli y rhanbarth yn y Senedd, y gall llawer mwy gau yn y blynyddoedd nesa ar ôl i adroddiad ddangos bod mwy na chwarter o feddygon teulu yn cysidro rhoi gorau i’r proffesiwn.

Dangosodd ffigyrau o StatsCymru o Mis Ionawr 2023 dim ond 104 o feddygfeydd meddygon teulu actif yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), i gymharu a 115 yn Mis Medi 2013.

Mae Mr Gruffydd is yn cefnogi ymgyrch Achubwch ein Meddygfeydd BMA Cymru Wales, sydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu pecyn achub ar gyfer practisiau cyffredinol.

Yn ôl adroddiad Achubwch ein Meddygfeydd yr undeb doctoriaid mae 26.6% o feddygon teulu yn bwriadu gadael y proffesiwn o fewn y blynyddoedd nesaf.

Dim ond hanner feddygon teulu partner a ddywedodd eu bod yn rhagweld y byddent dal yn eu rôl presennol mewn tair mlynedd.

O’r meddygon teulu a ofynnwyd roedd mwy na 80% yn dweud eu bod nhw’n pryderu nad ydynt yn gallu darparu gofal safonol a diogeli gleifion achos o m lwythi gwaith gormodol, gweithlu gostyngol, cynnydd yn galw am y gwasanaeth

Yn o gystal a hyn mae 13 o feddygfeydd meddygon teulu BIPBC o dan reolaeth uniongyrchol, y nifer uchaf o unrhyw fwrdd iechyd yng Nghymru. Mae’r ffigwr yn cynrychioli 50% holl bractisau a reolir o dan gontract y bwrdd iechyd yn y wlad.

Mae practis yn cael ei reoli yn y modd yma pan mae meddyg teulu partner yn trosglwyddo eu cytundeb yn ôl i’r bwrdd iechyd.  

Dywedodd Llyr Gruffydd AS: Mae’r ffaith bod 11 o bractisiau meddygon teulu yng Ngogledd Cymru wedi cau yn destun pryder i weithwyr proffesiynol meddygol ac i gleifion.

“Nid yw meddygon teulu yn cael y gefnogaeth angenrheidiol gan Lywodraeth Cymru, ac er eu gwasanaeth ymroddgar a’u hymdrechion rhyfeddol, mae o’n anochel y bydd hyn yn cael effaith niweidiol ar y gofal mae cleifion yn eu derbyn.

“Mae’r casgliadau sydd wedi cael eu hamlinellu yn adroddiad Achubwch ein Meddygfeydd yn ddifrifol, ac yn amlygu ymdeimlad eang o ddadrithiad.

“Mae o yn destun pryder bod dros chwarter o feddygon teulu yn meddwl am adael y proffesiwn.

“Yn sicr mae methiant Llywodraeth Cymru i ymafael a’r pryderon yma yn fom sydyn ticio, ac os nad yw gweinidogion Llafur yn darparu y lefel o gefnogaeth angenrheidiol mae o yn debygol y byddem yn gweld mwy o practisiau meddygon teulu yn cau yng Ngogledd Cymru yn y dyfodol.  

“Mae’r straen yn cael ei teimlo ar hyd a lled y wlad. Rydym wedi clwydwed gan feddygon teulu sydd wedi bod y cael trafferthion recriwtio staff am flynyddoedd maith. Mae yna esiamplau o orflinder eithafol a nifer cynyddol o bractisiau yn gorfod cau eu drysau, sydd yn golygu bod miloedd a gleifion mewn man arall.

“Mae hyn yn rhoi hyd yn oed mwy o bwysau ar feddygon teulu ac yn eu gwneud yn fwy tebygol i adael y proffesiwn.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Marc Jones
    published this page in Newyddion 2023-08-31 16:31:14 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd