AS yn ‘rhwystredig’ ar ôl i weinidog gyfaddef efallai na fydd ysbyty yn cael ei adeiladu

Mae AS wedi dweud ei fod yn “rhwystredig” ar ôl i’r Gweinidog Iechyd gyfaddef efallai y bydd cynllun i adeiladu ysbyty cymunedol yn Y Rhyl yn cael ei ddiddymu.

Cyhuddodd Llyr Gruffydd, sydd yn cynrychioli Gogledd Cymru yn y Senedd, Llywodraeth Cymru o “baratoi i dorri addewid” i drigolion lleol i adeiladu y cyfleuster.

Yn ystod dadl diweddar yn y Senedd, pwysodd Llyr Gruffydd ar Eluned Morgan i ateb os y bydd Ysbyty Cymunedol Gogledd Cymru yn cael ei adeiladu neu beidio.

Wrth ymateb dywedodd y gweinidog Llywodraeth Cymru ei fod o fyny i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i benderfynu os oedd o eisiau adeiladu yr ysbyty cymunedol neu canolfan orthopaedig newydd yng Ngogledd Cymru.

Awgrymodd y gweinidog dylai y canolfan orthopaedig gael ei flaenoriaethu achos o’r rhestr aros uchel am driniaeth, ond yn y diwedd roedd angen i’r bwrdd iechyd wneud y penderfyniad.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn ôl yn 2013 y bydd ysbyty newydd yn cael ei adeiladu ar safle blaenorol Ysbyty Frenhinol Alexandra yn Y Rhyl.

Roedd y cynnig ar gyfer yr ysbyty newydd gwlâu cymunedol, gwasanaeth mân anafiadau ac afiechydon, ardal triniaeth, gwasanaethau therapi cleifion allanol, iechyd rhyw, cymunedol deintyddol, radioleg, a gwasanaethau seicoleg a iechyd meddwl ar gyfer oedolion.

Mae’r prosiect wedi cael ei ohirio tro ar ôl tro, ac ers iddo gael ei gyhoeddi mae’r gost wedi codi o £22m i o gwmpas £80m.

Yn ôl pan roedd Mark Drakeford yn Weinidog Iechyd, dywedodd ei fod yr ysbyty newydd yn cael ei adeiladu erbyn 2016.

Yn ddiweddarach dywedodd cyn-Brif Weithredwraig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Jo Whitehead, y byddai gwaith adeiladu ar yr ysbyty yn cychwyn ddim hwyrach na Rhagfyr 3, 2021 os y byddai yr arian angenrheidiol yn cael ei ddarparu gan Llywodraeth Cymru.

Yn y Senedd, dywedodd Llyr Gruffydd AS: “Mi gaewyd y Royal Alex yn y Rhyl, wrth gwrs, nôl yn 2009, gydag addewid o’i ailddatblygu e. Yn wir, fe gaewyd ysbytai cymunedol ar gefn yr addewid yna o ailddatblygu’r Royal Alex.

“Mi oedd yna achos busnes yn 2021 yn amlinellu’n glir yr angen i’w ailddatblygu. Bedair blynedd ar ddeg yn ddiweddarach, wrth gwrs, rŷn ni'n dal yn aros i hynny ddigwydd.

“Mae’r bwrdd iechyd yn aros i’r Llywodraeth i gadarnhau a fydd yna gyllid ar gael, mae’r cyngor sir, a drafododd hyn yn ddiweddar, yn dal i aros, ac mae’r trigolion a chleifion yn y gogledd yn dal i aros.

“Nawr, yng ngoleuni yr heriau cyllidebol rŷch chi newydd eu hamlinellu inni, gewch chi ateb un o ddau gwestiwn—gewch chi ddewis pa un rŷch yn ei ateb.

“Naill ai a wnewch chi ateb pryd y gwelwn ni ailddatblygu’r Royal Alex yn y Rhyl, neu efallai fyddai'n well gyda chi ateb a fyddwn ni byth yn gweld ailddatblygu’r Royal Alex yn y Rhyl?”

Atebodd Eluned Morgan: “Mae'n rhaid gwneud penderfyniad ar hyn; mae'n rhaid blaenoriaethu.

“Nawr, mae'n mynd i fod yn anodd iddyn nhw flaenoriaethu. Dwi'n keen iawn, er enghraifft, i weld gwelliant yn y niferoedd sydd yn cael triniaeth orthopedig yn y gogledd—mae’r rhestrau aros yn rhy hir.

“Ac felly, fe fydd angen pwyso a mesur a ydych chi eisiau canolfan orthopedig newydd neu a ydych chi eisiau datblygu'r Royal Alex?

Wel, dwi ddim yn meddwl bod hwnna'n benderfyniad i mi; mae hwnna'n benderfyniad y mae’n rhaid i’r bwrdd ei bwyso a’i fesur o ran beth sydd yn fwyaf pwysig ar hyn o bryd.”

Ar ôl y ddadl, dywedodd Llyr Gruffydd: “Mae’r Gweinidog Iechyd mwy neu lai wedi cyfaddef bod posibilrwydd na fydd Ysbyty Frenhinol Alexandra yn Y Rhyl yn cael ei adeiladu o gwbl.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud addewid i bobl yr ardal y byddent yn cael yr adnodd angenrheidiol yma a mae o yn rhwystredig i ddysgu bod amheuaeth go iawn os y bydd y prosiect yn mynd yn ei flaen neu beidio.

“Mae o yn edrych fel bod y Llywodraeth yn paratoi i dorri ei addewid a rhoi yr holl fai ar y bwrdd iechyd.

“Mae angen cofio cafodd y prosiect yma ei gyhoeddi dros ddegawd yn ôl.

“Bydd cleifion yn Y Rhyl, ym Mhrestatyn ar ardal ehangach yn pryderu yn arw na fyddent yn cael be addewidwyd gan Llafur Cymru.

“Mae cymunedau yn yr ardal, sydd yn cynnwys rhai o’r mwyaf difreintiedig yng Nghymru, wedi cael eu gadael i lawr tro ar ôl tro gan y Torïaid yn San Steffan a Llafur ym Mae Caerdydd.

“Mae yna wir angen am adnoddau iechyd newydd yn o gystal a’r adfywio y daw gyda’r buddsoddiad o brosiect o’r fath yma.

“Mae yna argyfwng yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru a byddai ysbyty newydd yn gwneud llawer iawn i leihau pwysau yn yr ardal, yn enwedig Ysbyty Glan Clwyd sydd o dan straen aruthrol ar y funud.

“Nid yw’r sefyllfa yn dderbyniol a mae’r gohirio yn golygu bod y gost wedi codi o £22m i £80m ers i’r brosiect gael ei gyhoeddi.  

“Os y byddai Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi symud yn gyflymach, nid yn unig y byddai’r gymuned leol hefo’r gwasanaeth iechyd angenrheidiol, ond y byddai wedi bod yn llawer mwy fforddiadwy i’r trethdalwr.

“Yn sicr mae’r wir y bod amseroedd aros ar gyfer triniaeth orthopedig angen eu taclo, ond ni ddylai bod Llywodraeth Cymru wedi cael ei hun i fewn i’r sefyllfa lle roedd yn gorfodi y gwasanaeth iechyd i ddewis rhwng hynny ac adeiladu Ysbyty Cymunedol Gogledd Cymru.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Marc Jones
    published this page in Newyddion 2023-09-29 15:04:30 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd