Mae AS wedi talu teyrnged i’r RSPCA ar eu 200ed pen-blwydd.
Ymunodd Llŷr Gruffydd, sy’n cynrychioli Gogledd Cymru yn y Senedd, a cynrychiolwyr o RSPCA Cymru i ddathlu y carreg filltir.
Arwyddodd y gwleidydd o Blaid Cymru gerdyn mawr yn dymuno pen-blwydd hapus i’r elusen.
Pan gafodd yr RSPCA gan grŵp bach o bobl mewn caffi yn Llundain yn 1824 roedd y byd yn le gwahanol iawn i anifeiliaid.
Ers hynny mae’r mudiad wedi tyfu i fod yr elusen mwyaf o’i fath yn y DU, ac yn y byd.
Dros y ddau ganrif diwethaf mae’r RSPCA wedi helpu i newid dros 400 o ddeddfau – yn cynnwys rhai sy’n gwarchod anifeiliaid yng Nghymru.
Dywedodd Llŷr Gruffydd AS: “Roedd hi’n bleser i groesawu cynrychiolwyr o’r RSPCA i’r Senedd i ddathlu pen-blwydd y mudiad yn 200 oed.
“Dros y ddau ganrif diwethaf mae’r elusen wedi gwneud cyfraniad enfawr les anifeiliaid trwy ymgyrchu i newid deddfau, newid diwydiannau, ac i newid meddyliau.
“Mae yr RSPCA yn troi yn 200 oed yn cynnig y cyfle perffaith i adlewyrchu ar sut mae Cymru wedi sefydlu ei hyn fel arweinydd byd-eang mewn gwarchod anifeiliaid.
“Mae Cymru yn wlad sydd yn caru anifeiliaid ac rydw i yn falch o’r cyfraniad mae y Senedd wedi ei wneud i wella bywydau anifeiliaid yn o gystal a gwarchod yr anifeiliaid mwyaf bregus yn ein cymdeithas rhag creulondeb a esgeuluso.
“Mae’r byd yn newid yn gyflymach ac yn gyflymach a mae’r bygythiadau mae anifeiliaid yn gwynebu yn parhau i gynyddu ac mae ddyletswydd arnom ni fel cymdeithas mynd i’r afael a’r heriau yma.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter