July 26, 2021
Aros am atgyweirio ffyrdd yn 'hollol annerbyniol'
Mae angen cyllid Llywodraeth Cymru i drwsio ffordd medd Llyr Gruffydd AS
Mae pryder na fydd ffordd ddiflannodd mewn tirlithriad a achoswyd gan Storm Christophe yn cael ei hatgyweirio am flynyddoedd oherwydd i Lywodraeth Cymru wrthod ariannu'r gwaith.
Dyna farn Aelod o'r Senedd Gogledd Cymru Llyr Gruffydd, sydd wedi gofyn cwestiynau i weinidog trafnidiaeth Cymru, Lee Waters, ynghylch ag ariannu'r atgyweiriadau i'r B5605 yn Newbridge, ger Wrecsam.
Dywedodd Mr Gruffydd, sy'n cynrychioli Plaid Cymru: "Mae'r ffordd trwy Newbridge yn gyswllt pwysig i bobl leol wrth gwrs ond mae hefyd yn llwybr pwysig i drafnidiaeth pan fydd yn rhaid cau cefnffordd yr A483 gerllaw oherwydd damwain neu trwsio ffordd.
"Roedd y storm ym mis Ionawr yn golygu bod yr afon Ddyfrdwy islaw wedi ysgubo rhan o'r tir o dan y ffordd ac mae hanner y ffordd bellach wedi diflannu. Mae'r atgyweiriadau sydd eu hangen yn helaeth - rwyf wedi gweld un amcangyfrif ar fwy na £1m - a byddwn yn disgwyl i'r Llywodraeth i gefnogi'r cyngor yn ariannol er mwyn gwneud gwaith sylweddol fel hyn.
"Felly mae'n destun pryder mawr gweld llythyr dyddiedig Gorffennaf 14 gan Julie James, y gweinidog newid hinsawdd, yn dweud wrth yr AS lleol nad yw'r gwaith atgyweirio yn gymwys i gael cyllid o'r gronfa lleddfu llifogydd oherwydd na fyddai'n amddiffyn eiddo. Mae hi'n mynd ymlaen i ddweud fod y gronfa atgyweirio ffyrdd wedi'i dyrannu'n llawn ar gyfer eleni ac y bydd y cyngor ond yn gallu gwneud cais am hyn ar ôl Ebrill 2022.
"Mae trigolion lleol wedi gorfod goddef hyn ers chwe mis yn barod a'r ofn sydd gen i yw y gallai'r amharodrwydd hwn i ariannu atgyweiriadau olygu oedi sy'n para blynyddoedd cyn ei drwsio'n iawn. Mae'n gwbl annerbyniol - nid ffordd fach ddibwys ydi hon, mae'n ffordd leol bwysig ac mae iddi hefyd bwysigrwydd strategol ar gyfer cadw traffig i lifo o'r gogledd i'r de ar hyd cefnffordd yr A483 rhwng Ruabon a chylchfan Halton.
"Rydw i'n aros am atebion gan y gweinidog trafnidiaeth ar y mater hwn ond rwy'n annog trigolion lleol o'r ardaloedd yr effeithir arnynt yn y Waun, Newbridge, Cefn Mawr, Rhosymedre a Pentre i gysylltu â mi â'u barn - rwyf ar [email protected]."
Ydych chi'n hoffi y neges hon?
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter