Dywedodd Llŷr Gruffydd ei fod wedi dysgu cymaint o'i amser gyda swyddogion heddlu yn ardal Sir Ddinbych.
Ar y 23ain o Fai, roedd Llŷr Gruffydd wedi bod yn dysgu am flaenoriaethau a phryderon plismona wrth fynd allan gyda Heddlu Gogledd Cymru.
Dywedodd Mr Gruffydd "Roedd y daith o amgylch yr ardal yn gyfle gwych i siarad â'r swyddogion a dysgu mwy am eu rolau. Mae fy mharch tuag atynt wedi tyfu o ganlyniad ac roedd yn agoriad llygad i weld eu gwaith o'u safbwynt hwy.
"Roedd yna neges glir iawn bod llawer iawn o'u hamser yn cael ei dreulio yn delio ag achosion iechyd meddwl ac mae yna ofyn clir gan Lywodraethau'r DU a Chymru am wasanaeth iechyd meddwl 'golau glas' i helpu i ddelio â sefyllfaoedd cymhleth.
"Nid gweithwyr iechyd meddwl yw'r heddlu ond maent yn aml yn gorfod camu i fyny yn absenoldeb gwasanaeth o'r fath.
"Mae'r un peth yn wir am wasanaethau brys eraill fel y Gwasanaeth Tân ac Achub wrth gwrs.
"Hoffwn ddiolch i Liam, David a Lucy am eu hamser a dymuno'n dda iddyn nhw ar gyfer y dyfodol."
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter