Flwyddyn wedi chwalu pont Llannerch: AS Plaid yn mynnu atebion i atgyweirio
Llyr Gruffydd AS gyda'r Cynghorydd Meirick Lloyd-Davies ger Pont Llannerch
Flwyddyn ar ôl i lifogydd ysgubo pont restredig hanesyddol yn Sir Ddinbych o'r neilltu, mae Aelod o'r Senedd Plaid Cymru Llyr Gruffydd yn mynnu gweld atgyweirio’r bont.
Dywedodd Llyr Gruffydd, AS Gogledd Cymru Plaid Cymru, fod Pont Llannerch ger Trefnant yn Nyffryn Clwyd yn gyswllt pwysig rhwng cymunedau lleol: “Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers i’r bont gael ei hysgubo yn y llifogydd ac, er fy mod yn derbyn bod amryw o gyrff cyhoeddus wedi wynebu heriau eraill yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rwy’n siomedig nad oes mwy wedi digwydd.
"Yn ôl ym mis Awst, cefais ar ddeall fod Cyngor Sir Ddinbych yn asesu'r opsiynau ar gyfer pont newydd. Rwy'n deall bod hon yn waith costus, yn bennaf oherwydd nid dyma'r unig bont sydd dan fygythiad oherwydd yr argyfwng hinsawdd a thywydd eithafol.
"Mae natur hanesyddol y bont a'r angen i'w diogelu rhag llifogydd pellach yn y dyfodol yn golygu bod Cyfoeth Naturiol Cymru a CADW yn rhan o'r prosiect yma. Rwy'n deall y bydd adfer pont gerrig rhestredig o'r maint hwn yn costio miliynau a bydd angen cymorth ar gynghorau fel Sir Ddinbych i ariannu prosiect mor gostus. Bellach mae angen i'r gymuned leol gael gwybod beth yw'r amserlen debygol."
Dywedodd Cynghorydd Plaid Cymru Meirick Lloyd-Davies, sy'n cynrychioli ward Trefnant: "Rwy'n edrych ymlaen at sicrhau bod y gymuned leol yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y bont hanesyddol hon, sy'n ddolen gyswllt bwysig rhwng cymunedau lleol. Mae trigolion lleol wedi wynebu gwyriadau a theithiau ychwanegol oherwydd bod y cyswllt yma rhwng Trefnant a Thremeirchion wedi diflannu ac mae angen i ni weld rhai fel CADW, sy'n gyfrifol am adeiladau rhestredig, yn camu i'r adwy. Wedi'r cwbl, beth ydi gwerth rhestru pont hanesyddol os nad ydych yn barod i ariannu ei atgyweirio?"
Ychwanegodd Mr Gruffydd: "Rwy'n gwybod bod y cyngor yn wynebu heriau gyda phontydd eraill ledled y sir a bod yn rhaid diogelu llawer o strwythurau yn y dyfodol rhag newid hinsawdd, yn enwedig llifogydd. Mae'n amhosib iddynt gyflawni prosiectau seilwaith mawr heb gefnogaeth sylweddol. Nid yw hon yn broblem unigryw ac felly mae angen rhaglen o waith i sicrhau bod gennym rwydwaith trafnidiaeth cynaliadwy a gwydn ar gyfer y dyfodol. Dylai CNC a CADW hefyd fod yn cyflwyno’r achos dros gyllid i Lywodraeth Cymru. Fel arall, byddwn heb bontydd fel Pont Llannerch am flynyddoedd lawer i ddod."
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter