Yr wythnos hon fe wnaeth Llyr Gruffydd AS yn ei rôl fel Llefarydd Plaid Cymru ar faterion gwledig gwestiynu Ysgrifennydd y Cabinet ar lais Cymru wrth drafod cytundebau masnach ôl-Brexit.
Yn Siambr y Senedd holodd Llyr Gruffydd, llefarydd Plaid Cymru ar faterion gwledig yn Ysgrifennydd y Cabinet - Huw Irranca Davies ynghylch a yw'r cytundebau masnach presennol a drafodwyd ar ran cynhyrchwyr bwyd Cymru yn 'tanseilio'r' diwydiant.
Yn ei gwestiwn i Huw Irranca Davies, gofynnodd Llyr Gruffydd -
"Ydych chi'n cytuno gyda galwadau Plaid Cymru i Gymru gael feto ar gytundebau masnach yn y dyfodol os ydyn ni'n credu eu bod nhw'n niweidiol i'r sector bwyd a diod yma yng Nghymru? Ac a fyddech chi'n cytuno â Phlaid Cymru eto y byddai'n well ein byd fel rhan o un farchnad ac undeb tollau?"
Yn ei ymateb dywedodd Huw Irranca Davies ei fod yn cytuno, ac aeth ymlaen i ateb-
"Ar fater llais i Gymru mewn cytundebau masnach yn y dyfodol, does gennym ni ddim llais, does gennym ni ddim llais yn y cytundebau masnach.
"Byddai'n dda cael llais. Waeth pwy sy'n eistedd yn y seddi uchaf hynny ar lefel y DU wrth symud ymlaen, yn enwedig mewn bwyd, nid yn unig ein prif gynhyrchwyr, ond yn y gadwyn gyflenwi bwyd ehangach, mae angen i ni gael y llais hwnnw. Dwi ddim yn dweud veto, dwi'n dweud llais.
"Dyma'r math o lais roedden ni'n arfer ei gael, yn rhyfedd, cyn i ni fynd trwy Brexit."
Awgrymodd adroddiad gan yr 'Economics Observatory' ym mis Mawrth 2021 y gallai allforion Cymru gael eu lleihau gan gyfanswm o £1.1 biliwn (sy'n cyfateb i 6%) o ganlyniad i adael yr UE. Honnodd y byddai nifer o sectorau yn cael eu heffeithio'n arbennig o wael o golli cyllid yr UE gan gynnwys amaethyddiaeth, twristiaeth, awyrofod a dur.
Yn yr 8 mlynedd ers pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Llafur a'r Ceidwadwyr o fod yn farwol dawel ar y difrod y mae Brexit wedi'i achosi, ac yn tynnu sylw at y ffaith bod Brexit wedi bod yn niweidiol iawn i Gymru am sawl rheswm gan gynnwys -
- Biwrocratiaeth diangen a chostau uwch i fusnesau;
- Costau uwch o hanfodion y cartref;
- Tanseilio ffermwyr gyda cytundebau masnach ôl-Brexit sy'n caniatáu mewnforio rhad i ddod i Gymru.
- Amharu ar ryddid unigolion i deithio'n hwylus rhwng gwledydd.
- Mae economïau lleol o amgylch porthladdoedd Cymru fel Caergybi wedi dioddef ergyd go iawn gyda gostyngiad yn nhraffig llif nwyddau yr UE.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter