Mae Llyr Gruffydd, AS Gogledd Cymru Plaid Cymru, wedi ymateb i’r newyddion bod prif weithredwr bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn rhoi’r gorau i’r swydd yn ddiweddarach eleni:
“Rwy’n dymuno’n dda i Jo Whitehead sy’n amlwg yn wynebu amgylchiadau personol anodd iddi. Mae’r ymadawiad hwn yn golygu y bydd BIPBC nawr yn chwilio am ei seithfed prif weithredwr neu Brif Swyddog dros dro mewn dim ond naw mlynedd ac mae hynny’n symptomatig o sefydliad sy’n ei chael hi’n anodd o ran arweinyddiaeth a chyfeiriad.
“Mae’r rhan fwyaf o’r blynyddoedd hynny wedi’u treulio dan fesurau arbennig o dan ymyrraeth uniongyrchol y Llywodraeth Lafur, cyfnod o amser na welodd welliannau sylweddol mewn llawer o adrannau.
“Mae pawb yn y Gogledd eisiau gweld y bwrdd iechyd yn llwyddo ond rydyn ni hefyd yn gwybod ei fod o dan bwysau enfawr oherwydd cyfuniad o alw cynyddol, prinder staff, gweithlu dan bwysau ac uwch reolwyr sydd wedi methu â delio â’r heriau dros y degawd diwethaf. Mae’r amser wedi dod inni ystyried a yw’r bwrdd iechyd presennol yn rhy fawr i ymdrin â’r heriau hynny a bod angen newid ehangach i ddarparu’r gwasanaethau y mae cleifion gogledd Cymru yn eu haeddu.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter