Y pedwar aelod o staff a gafodd wobrau yn Nolywern oedd Justine Brady (aelod rhagorolo'r tîm gofal), Pam Gratrick (aelod rhagorol o'r tîm clinigol), Meinir Austin (aelod rhagorol o'r tîm ategol) a Siân Jones (aelod rhagorol o'r tîm am wasanaeth). Yn y llun mae'r enillwyr gyda Llyr Gruffydd a Glyn Meredith, cyfarwyddwr Cymru Leonard Cheshire.
Mae AS Plaid Cymru dros y Gogledd wedi talu teyrnged o'r galon am waith gweithwyr gofal mewn cartref yn Nyffryn Ceiriog.
Mae'r elusen anabledd blaenllaw Leonard Cheshire wedi bod yn dathlu eu staff gofal ledled Cymru y mis hwn mewn cyfres o seremonïau gwobrwyo.
Roedd yr elusen eisiau cydnabod ymdrechion eu gwasanaethau gofal a'u staff yn ystod y pandemig a dathlu eu hymroddiad i gefnogi pobl anabl.
Mae digwyddiadau dathlu staff wedi cael eu cynnal ledled Cymru, gan gynnwys Wrecsam, Ynys Môn, Caerfyrddin ac Abertawe hyd yn hyn. Cysegrwyd y digwyddiadau i staff, ac roeddent yn cynnwys seremoni wobrwyo, adloniant byw, blodau, tlysau ac arlwyo.
Dathlodd Dolywern eu staff gyda consuriwr byw a chyflwynwyd gwobrau gan MS rhanbarthol Gogledd Cymru Plaid Cymru ar gyfer Gogledd Cymru, Llyr Gruffydd MS. Dywedodd:
"Roedd yn fraint wirioneddol gallu mynychu'r seremoni wobrwyo a diolch i'r holl staff am y gwaith anhygoel a wnaed trwy gydol yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Rydym i gyd wedi dod yn fwy ymwybodol o'r aberthau a'r ymdrechion parhaus sy'n cael eu gwneud gan staff yn y sector cartrefi gofal. Mae arnom ddyled fawr iddynt fel cymdeithas.
"Fel y gŵyr y rhai a oedd yn bresennol, mae gan fy nheulu ddiolch penodol a phersonol iawn i'w wneud i gartref Leonard Cheshire yn Nolywern am y ffordd y gwnaethant ofalu am berthynas i ni yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Roedd yn eithaf emosiynol mynd nôl i'r cartref oherwydd nid yw gyda ni mwyach ac mae'n tanlinellu pa mor werthfawr yw'r gwaith a wneir yn y gwasanaeth. "
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter