Yn ddiweddar cafodd Llyr Gruffydd y cyfle i longyfarch Mudiad y Ffermwyr ifanc ar lwyddiannau diweddar. Daeth llwyddiant i ran nifer o glybiau ac unigolion yn Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc yng Nghaerfyrddin.
Dyma oedd gan Llyr i'w ddweud am y llwyddiannau yn yr eisteddfod-
"Alla i fanteisio ar y cyfle yma i longyfarch Ffermwyr Ifanc Cymru ar eu llwyddiant yn Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin yn ddiweddar. Daeth nifer o gystadleuwyr i’r brig o’m rhanbarth i yn y Gogledd mewn meysydd mor amrywiol â’r Ensemble Lleisiol – Clwb Rhosybol, Ynys Môn a gipiodd y wobr gyntaf, Hawys Grug o Glwyd a enillodd ar yr unawd ieuenctid, a Mared Edwards o Fôn a ddaeth i’r brig yn y gystadleuaeth Adrodd Digri.
Llongyfarchiadau mawr hefyd i Mared Fflur Jones o Ynys Môn ar ennill y gadair, ac i Elain Iorwerth sydd yn astudio ym Mhrifysgol Bangor ar ennill y Goron. Wrth gwrs, mae llwyddiant ysgubol yr eisteddfod eto eleni yn deyrnged i rol hanfodol y mudiad fel asgwrn cefn diwylliant Cymreig a’r iaith Gymraeg ar draws Cymru ben-baladr."
Daeth llwyddiant i’r Ffermwyr Ifanc yng ngwobrau Prydeinig y mudiad a gynhaliwyd yn y Ganolfan Gynadleddau Cenedlaethol Birmingham ar yr un penwythnos. Dyma oedd gan Llyr Gruffudd i'w ddweud wrrth longyfarch y rhai a ddaeth i'r brîg yn y seremoni yn Birmingham-
Un o sêr ffermwyr ifanc Uwchaled – Ceridwen Edwards a ddaeth i’r brig yng nghategori ‘Calon y CFfI’ – enillodd Ceridwen dros 2000 o bleidleisiau i gipio’r wobr, a hyn oherwydd ei gwaith diflino dros ei chlwb. Roedd Ceridwen wedi creu argraff ar y beirniaid oherwydd ei egni yn datblygu cynwysoldeb y mudiad, ac o’i egni a’i brwdfrydedd.
Un arall o lwyddiannau mawr y noson oedd Clwb Ffermwyr Ifanc Llangwyryfon, Ceredigion, a enillodd wobr ‘Ysbryd Cymunedol Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc’. Yn ôl Y Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc roedd y clwb-
"wedi caru sut oedd y clwb yn helpu i gadw'r Gymraeg yn fyw drwy weithgareddau dwyieithog sy'n dod â phobl ynghyd.”
Roedd aelodau’r clwb wedi chwarae rhan allweddol y neu ymgyrch i achub y neuadd bentref yn Llangwyryfon, ac roedd canmoliaeth y ffederasiwn yn hael i’r clwb-
"Mae eu gweithredoedd nid yn unig o fudd i'r clwb, ond hefyd o fudd i'r gymuned" meddai llefarydd ar ran y ffederasiwn."
Mae gan Glybiau Ffermwyr Ifanc Cymru dros 5,500 o aelodau – rhai mor ifanc â 10 oed, a’r hynaf yn 28 oed.
Credir fod dros 1.1 miliwn o oriau gwaith gwirfoddol yn cael eu cyflawni'n flynyddol gan aelodau.
Mae’n wir fod y clybiau a’u haelodau wir yn asgwrn cefn i Gymru wledig, ac mae eu cyfraniad amhrisiadwy nhw i’w cymdeithas yn aml yn parhau gydol eu hoes. Hoelion wyth cymdeithas heb os.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter