Carthffosiaeth Capel Curig - eto

O'r chwith: Cynghorydd sirol Liz Roberts, Cadeirydd cyngor cymuned Capel Curig Gethin Davies, Llyr Gruffydd AS, cynghorydd cymuned Shan Ashton.

 

Mae diffyg gweithredu ar garthffosiaeth amrwd mewn pentre wedi cynddeiriogi Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros y Gogledd.

Mae Llyr Gruffydd, AS Gogledd Cymru Plaid Cymru, wedi condemnio’r diffyg gweithredu wedi i afonydd o garthffosiaeth arllwys trwy bentref Capel Curig wedi glaw trwm heddiw.

 

Yn gynharach eleni cyfarfu Mr Gruffydd ag ymgyrchwyr a chynghorwyr lleol yng Nghapel Curig i dynnu sylw at broblem carthffosiaeth a gorlifiadau rheolaidd yn y pentref.

Nododd yr ymateb a gafodd gan Ddŵr Cymru, sydd â chyfrifoldeb am y gwastraff, fod Capel Curig ymhlith 3,000 o leoliadau ledled Cymru sydd mewn perygl o orlifo carthion. Ychwanegodd y llythyr nad oedd Capel Curig yn y 500 uchaf.

Dywedodd Mr Gruffydd mewn ymateb: "Unwaith eto rydym yn gweld glawiad trwm yn achosi i garthffosiaeth amrwd lifo ar draws caeau ac i'r afon leol. Mae'n fater sydd wedi'i amlygu gennyf i, cynghorwyr lleol a thrigolion yn y gorffennol ond mae'n ymddangos nad oes ymdeimlad o frys i ddelio â hyn neu'r miloedd o fannau trafferthus eraill yng Nghymru.

"Mae'n anodd credu fod 500 neu fwy o gymunedau wedi'u heffeithio ledled Cymru sydd mewn sefyllfa waeth na Capel Curig - pryd mae Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n monitro ansawdd dŵr, am ddechrau gweithredu er mwyn sicrhau nad ydym yn wynebu argyfwng iechyd go iawn? Rwy'n syfrdanu fod yr ymateb mor ffwrdd â hi ynglyn â chydnabod y risg i iechyd o ollwng gwastraff dynol i afonydd a chyrsiau dŵr eraill. "

Mae'r llythyr gan Dŵr Cymru yn nodi bod pibell all-lif sy'n mynd â charthffosiaeth i'r afon i gael ei glanhau erbyn canol mis Hydref. Ychwanegodd Mr Gruffydd: "Pe bai'r gwaith wedi digwydd fel yr addawyd, mae'n amlwg nad yw'n ddigonol i fynd i'r afael â'r broblem sylfaenol o ddiffyg gallu i ateb y galw."


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Marc Jones
    published this page in Newyddion 2021-10-28 13:29:14 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd