Mae dau ffermwr llaeth o Sir y Fflint sydd wedi gosod peiriant gwerthu poteli llaeth ar eu fferm ger Trelogan wedi ennill cefnogaeth AS Gogledd Cymru Plaid Cymru yn eu brwydr gyda’r awdurdod cynllunio lleol.
Cafodd Elliw ac Einion Jones siom o glywed nad yw eu peiriant gwerthu ar fferm Mynydd Mostyn yn cwrdd â meini prawf cynllunio ac wedi cael ei wrthod fel datblygiad a ganiateir gan swyddogion cynllunio Cyngor Sir y Fflint.
Nawr mae Aelod rhanbarthol Seneddol Plaid Cymru wedi ymuno â'r frwydr. Dywedodd Llyr Gruffydd, MS Gogledd Cymru Plaid Cymru: "Mae ffermwyr yn cael eu annog i arallgyfeirio o hyd ac mae Elliw ac Einion Jones wedi gwneud hynny. Mae ffermwyr llaeth Cymru wedi cael amser arbennig o anodd yn ystod y blynyddoedd diwethaf gyda methiant amryw o broseswyr llaeth a'r wasgfa gyson o du archfarchnadoedd. Ar yr un pryd mae'r peiriant gwerthu yn cynnig gwasanaeth i gymuned wledig ac, yn ôl pob cyfrif, mae'n stori lwyddiant wledig go iawn.
"Er fy mod yn deall bod yn rhaid i gynghorau orfodi rheolau cynllunio, mae canllawiau cynllunio yno i'w dehongli yn eu cyd-destun. Mae'n anodd credu bod y fenter ffermio fach hon yn achosi problemau ar unrhyw raddfa pan allwn weld yr un awdurdod lleol yn rhoi caniatâd ar gyfer cannoedd o tai newydd yng nghefn gwlad a chaeau gleision.
"Mae'n ymddangos bod polisi cynllunio yn ffafrio'r datblygwyr mawr yn hytrach na'r mentrau bach sydd - hyd y gwelaf i - yn gwneud cyfraniad buddiol i fwyd lleol ac economi wledig gynaliadwy. Byddwn yn annog Elliw ac Einion i ddod â'r cais cynllunio hwn gerbron y pwyllgor cynllunio i'w hystyried. Mae'r gefnogaeth gyhoeddus enfawr i'r fenter hon yn arwydd o ba mor werthfawr yw hi. "
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter