Chwarae teg ar y cae chwarae

Mae cefnogwyr pêl-droed yn haeddu chwarae teg efo mynediad i gemau pêl-droed, yn ôl yr Aelod Senedd Gogledd Cymru Llyr Gruffydd

 

Mae Aelod rhanbarthol Plaid Cymru o’r Senedd Llyr Gruffydd wedi galw am ‘gae chwarae gwastad’ o ran cefnogwyr sy’n mynychu gemau chwaraeon. Daw’r alwad ar ôl iddi gael ei datgelu bod gemau Clwb Pêl-droed Caer dros y Nadolig wedi mynd yn eu blaenau er bod pedair ochr y stadiwm yng Nghymru ac ar ôl i bryderon gael eu codi gan Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Sir y Fflint.

Dywedodd Mr Gruffydd MS: "Fe wnaeth pob cefnogwr pêl-droed yng Nghymru golli allan ar y gemau cartref traddodiadol dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd - a pharhau i wneud hynny. Felly mae'n rhwystredig dweud y lleiaf i weld Caer, sy'n chwarae ei bêl-droed yn Sir y Fflint, yn bod gallu parhau i chwarae.

"Rwyf wedi mynegi amheuon ynghylch penderfyniadau Llywodraeth Cymru ar gyfyngu presenoldeb ym mhob digwyddiad chwaraeon a hyd yn oed gweithgareddau Parkrun awyr agored. Mae peidio â chaniatáu i gefnogwyr i wylio gemau'n fyw wedi golygu bod mwy wedi tyrru i glybiau a thafarndai i wylio gemau - nid yw hynny'n helpu efo atal lledaeniad y straen diweddaraf.

"Er ein bod yn gefnogol i unrhyw symudiadau i sicrhau nad yw ein GIG yn cael ei lethu gan yr ymchwydd diweddaraf, mae'n rhaid i ni gael cae chwarae gwastad sy'n deg i bawb. Pam y dylid caniatáu i Gaer barhau i chwarae o flaen torfeydd tra nad yw clybiau eraill yn y Gogledd? Ac, os caniateir iddynt barhau i dderbyn gwylwyr, onid yw hynny'n agor y Llywodraeth i her gyfreithiol gan glybiau eraill sydd wedi colli allan?

"Rwy'n gofyn i'r Prif Weinidog yn y Senedd yr wythnos nesaf esbonio pam mae gennym yr anghysondeb hwn a beth mae ei lywodraeth yn bwriadu ei wneud yn ei gylch."


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Marc Jones
    published this page in Newyddion 2022-01-08 15:23:29 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd