Mae Llyr Gruffydd AS wedi croesawu disgyblion "awyddus" o ddwy ysgol yn sir Wrecsam i'r Senedd lle dysgon nhw am ddemocratiaeth Cymru.
Cafodd disgyblion Ysgol Bryn Tabor, yng Nghoedpoeth ac Ysgol Bro Alun, yng Ngwersyllt, daith dywys o amgylch Senedd Cymru.
Siaradodd Llyr Gruffydd â'r bobl ifanc sut mae'r Senedd yn gweithio ac am ei rôl yn ymladd ar ran etholwyr ac yn craffu ar waith Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Llŷr Gruffydd: "Roedd hi'n wych cael siarad gyda disgyblion Ysgol Bryn Tabor ac Ysgol Bro Alun, yn ystod eu hymweliad â'r Senedd er mwyn iddyn nhw allu dysgu am y gwaith sy'n digwydd yma."Roedden nhw'n awyddus iawn i ddarganfod sut mae democratiaeth yn gweithio yng Nghymru ac fe wnaethon nhw ofyn llawer o gwestiynau meddylgar, deallus a threiddgar.
"Fe wnaethant ddangos yn glir bod pobl ifanc eisiau ymwneud â gwleidyddiaeth, fel y gallant lunio sut mae'n effeithio ar eu bywydau.
"Mae meithrin y math hwn o ymgysylltiad cadarnhaol gan bobl ifanc gyda'r Senedd yn bwysig ar gyfer dyfodol ein democratiaeth yng Nghymru.
"Hoffwn ddiolch i ddisgyblion Ysgol Bryn Tabor ac Ysgol Bro Alun yn ogystal â'r aelodau staff am estyn y fraint o siarad â nhw am waith y Senedd."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter