Ysgol Dyffryn Iâl
Ysgol Caer Drewyn
Ysgol Carrog
Yn ddiweddar cafodd Llyr Gruffydd y fraint o groesawu tair ysgol o Sir Ddinbych i'r Senedd yng Nghaerdydd.
Daeth disgyblion o Ysgolion Carrog, Dyffryn Iâl ac Ysgol Caer Drewyn, Corwen draw i'r Senedd i ddysgu am waith dydd i ddydd yr aelodau, yn ogystal a thrafod rhai o'r materion pwysig y mae wedi bod yn ymgyrchu arnynt.
Mae ymweliadau â'r Senedd yn cynnig cyfle i bobl ifanc ddeall yn well sut mae democratiaeth yn gweithio yng Nghymru, yn ogystal â dysgu mwy am sut y gallant helpu i lunio dyfodol y wlad.
Dywedodd Llŷr Gruffydd-
"Gwych oedd gallu croesawu disgyblion o Ysgol Dyffryn Ial; Ysgol Carrog ac Ysgol Caer Drewyn i'r Senedd.
"Roedden nhw'n amlwg yn frwdfrydig dros ddysgu sut mae democratiaeth ifanc yn gweithio yng Nghymru, a sut y gallan nhw helpu i lunio dyfodol y wlad.
"Mi oedden nhw nhw eisiau gwybod sut y gallen nhw gael y materion sy'n effeithio arnyn nhw a'u cymunedau yn uwch na'r agenda wleidyddol. Mae'n ddigon posib mai gwleidyddion y dyfodol fydd rhai ohonynt.
"Roedd eu cwestiynau'n feddylgar ac roedden nhw'n dangos gwir angerdd dros wneud y wlad yn lle gwell."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter