Cynghorau 'angen cefnogaeth barhaus nid toriadau pellach'

Mae cynghorwyr Plaid Cymru ar Ynys Môn wedi cyfarfod â'u MS rhanbarthol Llyr Gruffydd i drafod gwella'r berthynas rhwng y Senedd a llywodraeth leol.

Yn y cyfarfod, y ddiweddaraf mewn cyfres, clywodd llefarydd  lywodraeth leol Plaid Cymru nad yw llywodraeth leol yn cael ei flaenoriaethu gan Lywodraeth Cymru.

Fe wnaeth Mr Gruffydd ddiweddaru'r grŵp ar y datblygiadau diweddaraf yn y Senedd gan bwysleisio pwysigrwydd cynghorau lleol wrth ddarparu gwasanaethau allweddol ar draws Cymru. Mae gan Blaid Cymru bellach reolaeth gyffredinol ar bedwar cyngor yng Nghymru, gan gynnwys Ynys Môn, yn ogystal â rhannu grym mewn tri arall.

Ychwanegodd Mr Gruffydd: "Mae cynghorwyr yn gorfod delio â'r heriau dydd-i-ddydd sy'n wynebu pobl tra mae cynghorau yn gorfod darparu gwasanaethau yn wyneb galw cynyddol a choffrau sydd wedi bod lleihau dros y degawd diwethaf. Dyna ganlyniad degawd o doriadau i'r Torïaid a does dim gobaith y bydd llywodraeth San Steffan yn gwella'r setliad ariannol yn fuan. Llynedd roedd setliad ariannol yn cael ei weld fel un eithriadol gan ei fod yn mynd yn groes i'r duedd o lymder yn sgil Covid ond mae hyd yn oed y cynnydd hwnnw wedi cael ei fwyta gan chwyddiant. Mae angen cyfnod parhaus a sefydlog o fuddsoddi ar lywodraeth leol fel y gall cynghorau ddarparu gwasanaethau gwell ar adeg pan fo'u hangen fwyaf.

"Roeddwn wrth fy modd yn cyfarfod cynghorwyr yn ystod ymweliad â'r ynys a gwrando ar eu pryderon yn ogystal â'u llongyfarch ar eithriadol"

From Chwith: Cyng. Llio Angharad Owen, Cyng. Nicola Roberts, Cyng. Ken Taylor, Cyng Non Dafydd, Cyng. Margaret Roberts and Llyr Gruffydd AS


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Gruffudd Jones
    published this page in Newyddion 2022-08-01 14:18:25 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd