Mae pryderon wedi eu codi yng nghanol mwy a mwy o wastraff o Loegr yn cael ei adael mewn safle tirlenwi dadleuol yn Wrecsam.
Datgelodd yr ystadegau diweddaraf a gafwyd gan Llyr Gruffydd ar gyfer safle tirlenwi'r Hafod yn Johnstown, Wrecsam fod 61% o'r gwastraff a gyrrhaeddodd yno o Loegr gyda'r gweddill yn dod o ogledd Cymru. Dim ond 19% sydd o Wrecsam ei hun.
Mae'r safle, sy'n cael ei redeg gan Enovert, o Stafford, wedi cael ei feirniadu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yng nghanol sgandal ble mae aroglau parhaus yn llethu'r gymuned.
Mae preswylwyr wedi adrodd am arogl "wyau pydredig" ers mis Hydref 2023, gyda hysbysiad gorfodi yn cael ei roi i Enovert i fynd i'r afael â'r mater ym mis Rhagfyr. Fis diwethaf, cafodd y mater ei drafod gan bwyllgor Craffu Cyngor Wrecsam, a ddywedodd bod angen i'r cwmi a'r awdurdodau roi'r gorau i fei eu gilydd a mynd i'r afael â'r mater.
Yn 2020 holodd Mr Gruffydd y cwmni am darddiad y deunydd gwastraff. Yn ôl wedyn, daeth dros chwarter (27%) o ardal Wrecsam.
Mae llawer mwy o wastraff bellach yn dod o Lerpwl a Glannau Mersi - 37% - o'i gymharu â 21% yn 2020.
Dywedodd Mr Gruffydd: "Mae'r prif bryder am iechyd a diogelwch y safle a'i effaith ar drigolion lleol. Yn ôl yn 2020 cafodd pobl yr ardal gyngor i gau eu ffenestri yn ystod tywydd poeth oherwydd y mygdarth o'r tân a ddechreuodd ar y safle.
"Ers hynny bu pryderon parhaus am y drewdod o'r safle tirlenwi, sy'n effeithio ar drigolion cyfagos Rhiwabon a Johnstown. Mae'r safle tirlenwi wedi cael ei ddefnyddio'n bennaf gan awdurdodau yng ngogledd-orllewin Lloegr i waredu gwastraff o'u poblogaethaethau nhw ac mae'n gywilyddus bod disgwyl i drigolion Wrecsam ysgwyddo'r baich.
"Yn ôl yn 2020, cefais sicrwydd gan Gyngor Wrecsam nad oedd unrhyw wastraff trefol o'r sir yn cael ei adael yn Hafod. Ond mae'r ganran gyffredinol o wastraff trefol gan bob awdurdod yn cynyddu dros y blynyddoedd ac efallai mai dyna'r rheswm pam mae'r problemau arogleuon yn dod yn fwy amlwg nawr.
"Mae trigolion eisiau sicrwydd bod y safle'n ddiogel ac nad yw'r nwyon yn niweidiol i iechyd pobl leol. Mae'r lefel gynyddol o wastraff sy'n cael ei gludo gan lorïau o dros y ffin yn bryder arall - onid oes unrhyw safleoedd tirlenwi yn agosach at Lerpwl, Manceinion a Warrington?
Am ba hyd y bydd yn rhaid i drigolion ger yr Hafod fyw gyda'r broblem hon?"
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter