Dablygiadau cyffrous Theatr Clwyd yn dod ymlaem yn arw!

 

Wrth ymweld a safle adeiladu enfawr Theatr Clwyd, sydd yn cael buddsoddiad enfawr, roedd Llyr Gruffydd wedi rhyfeddu at faint y datblygiad. Mae'r buddsoddiad o £50M yn lleoliad y celfyddydau yn Yr Wyddgrug yn brysur dynnu tua'r terfyn, ac er fod llawer iawn o waith ar ol i'w wneud, mae'r weledigaeth derfynnol yn dechrau cymeryd siap.

 

Dywedodd Llyr Gruffydd -

 

"Mae maint y datblygiad yn enfawr. Mae bron yn ail-adeiladu'r lleoliad yn llwyr, wedi'i ail-fodelu'n llwyr gyda chynulleidfa'r 21ain ganrif mewn golwg.

"Er i'r adeilad presennol gael ei agor yn 1976 mae taer angen am fuddsoddiad sylweddol er mwyn achub ei ddyfodol. Mae Plaid Cymru a minnau wedi brwydro'n galed dros nifer o flynyddoedd i sicrhau'r buddsoddiad hwn, ac mae dod yma i brofi'r bwrlwm o weithgaredd adeiladu sy'n digwydd yn eithaf cyffrous.”

 

Er bod rhannau o'r lleoliad wedi bod ar gau ers cryn amser i ddarparu ar gyfer yr uwchraddio, mae'r cwmni theatr wedi llwyddo i gadw'r perfformiadau i fynd drwy'r cyfan. Bydd y prif awditoriwm yn ailagor ym mis Tachwedd, mewn pryd ar gyfer y Panto tymhorol - 'Mother Goose' fydd yr arlwy eleni. Disgwylir i'r cynhyrchiad ddenu tua 40,000 o gynulleidfa.

 

Aeth Llyr Gruffydd ymlaen i ychwanegu-

 

"Mae lleoliadau fel hyn yn cael eu colli ledled y wlad oherwydd diffyg cyllid. Yr unig ffordd y gallem sicrhau dyfodol yr adnodd hwn oedd brwydro dros y buddsoddiad cyfalaf y mae'n ei haeddu, a gwella statws y theatr ymhellach fel pluen yn het Gogledd-ddwyrain Cymru."

 

Mae'r ailwampio yn cynnwys uwchraddio'r ddarpariaeth arlwyo yn sylweddol gyda'r cogydd teledu Bryn Williams, a anwyd yn Ninbych, yn agor bwyty newydd ar y safle ar ôl cymryd yr awenau yn y fasnachfraint arlwyo. Bydd y cyfadeilad celfyddydol yn gallu denu'r perfformwyr a'r dramâu gorau sy'n teithio'r DU, ond yn bwysicach na hynny bydd ganddi'r holl gyfleusterau sydd eu hangen i gefnogi cynhyrchu cynyrchiadau gwreiddiol gan y cwmni. Mae hyn yn cynnwys gweithdai adeiladu a phaentio setiau, a mannau gwneud gwisgoedd gyda thechnolegau o'r radd flaenaf a llawer mwy.

Yn 2016 roedd Theatr Clwyd yn cyflogi 63 o bobl - gyda'r buddsoddiad newydd gan y sectorau cyhoeddus a phreifat maen nhw'n gobeithio cyflogi 250 o staff erbyn haf 2025.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Geraint Thomas
    published this page in Newyddion 2024-09-13 10:51:41 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd