Dathlu pen-blwydd Ysgol Pentrecelyn yn y Senedd!

 

Heddiw yn y Senedd cafodd Llyr Gruffydd y cyfle i ddymuno Penblwydd Hapus i Ysgol Pentrecelyn.

 

Dyma'r hyn ddywedodd Llyr yn Siambr y Senedd-

 

"Llongyfarchiadau i Ysgol Pentrecelyn ar ddathlu ei phenblwydd yn 150 mlwydd oed yr wythnos yma.

 

Fel cyn-riant a Llywodraethwr yno ar hyn o bryd, dwi ishe nodi’r garreg filltir nodedig yma i’r ysgol fechan wledig hon yn Nyffryn Clwyd.

 

Agorwyd Ysgol Pentrecelyn ar 11eg Mai 1874 gyda 34 o blant ar y gofrestr a Mr Owen Henry Owen, Gaerwen yn bennaeth.  Sarah Ann Winter o Siop Pentrecelyn oedd yr enw cyntaf ar y gofrestr a Grace Jones, Fron Isa oedd yr ail.

 

Ac mae ‘na filoedd o ddisgyblion wedi dilyn yn ôl eu traed nhw ar y gofrestr ers hynny. Pobl fel yr actorion Rhys Ifans a’i frawd Llyr Ifans, yr actores Victoria Pugh, y pianydd rhyngwladol Teleri Sian a’r cantorion nodedig Sera Baines ac Elis Jones – sydd hefyd gyda llaw yn bencampwr byd ar saethu colomennod clai’r– i enwi dim ond rhai o’i chyn-ddisgyblion!

 

Ac mae’r ysgol yn dal i fynd o nerth i nerth, gyda arolwg disglair gan Estyn llynedd yn amlygu bod Ysgol Pentrecelyn yn ysgol ragorol sy’n darparu addysg a phrofiadau dysgu o ansawdd uchel i’w disgyblion.

 

Fe gafwyd cyngerdd dathlu gyda channoedd lawer yn dod iddi rai wythnosau nol ac mi fydd yna ddiwrnod dathlu a pharti penblwydd mawr yn cael ei gynnal yn yr ysgol ddydd Sadwrn yma.

 

Fel ysgrifennodd Gareth Neigwl yn ei englyn bendigedig:

 

A’i haddysg imi’n wreiddyn – hyd fy oes,

I’w hiard fach rwy’n perthyn;

Lle bo’r daith daw llwybrau dyn

Yn ôl i Bentrecelyn.

 

Penblwydd hapus i Ysgol Pentrecelyn gan bawb yn Senedd Cymru!"


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Geraint Thomas
    published this page in Newyddion 2024-05-15 17:26:02 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd