'Pam mae gweithwyr Cymru yn cael eu talu llai na'u cymheiriaid yn Lloegr?'
Mae MS Gogledd Cymru Plaid Cymru wedi annog Arriva Bus Cymru i setlo’r streic gyda 400 o yrwyr bysiau ledled y Gogledd, sydd bellach yn dechrau ar ei drydydd diwrnod.
Cafodd y streic ei galw gan yrwyr bysiau o undeb Unite ar ôl i’r cwmni wrthod paru ei gynnig yng Nghymru gyda’r cynnig 39c a wnaeth i yrwyr bysiau yng ngogledd-orllewin Lloegr.
Dywedodd Llyr Gruffydd: "Mae hwn yn streic nad oes angen iddo ddigwydd. Mae Arriva wedi cynnig codiad cyflog o 39c yr awr i'w gweithlu yn Lloegr tra yng Nghymru mae'n cynnig yn 29c yr awr. Mae'r gwahaniaeth cyflog bellach yn £2.20 yr awr rhwng staff Cymru a gogledd-orllewin Lloegr. A all rhywun yn y cwmni esbonio i mi pam eu bod yn talu cyn lleied i weithwyr Cymru? Nid oes unrhyw gyfiawnhad ac mae'n gwbl ddealladwy bod gyrwyr bysiau yn teimlo nad oes ganddyn nhw ddewis arall ond gweithredu.
"Mae'r rhain yn weithwyr allweddol a gafodd eu canmol yn ystod y cyfnod clo fel arwyr. Wel, gadewch i ni eu trin fel arwyr a rhoi codiad cyflog iawn iddyn nhw a gweithwyr allweddol eraill.
"Rwy'n gwybod bod y streic wedi taro'n galed o ran pobl yn methu â chyrraedd y gwaith, i'r coleg a theithiau eraill. Bydd yn taro busnesau sy'n dibynnu ar bobl sy'n teithio ar fws felly dyna pam rwy'n annog Bws Arriva i fynd yn ôl rownd y bwrdd i ddatrys y streic hon cyn gynted â phosib. "
Mae'r streic wedi effeithio ar wasanaethau bysiau ledled y Gogledd a'r bwriad yw parhau'r gweithredu tan Ragfyr 19eg oni bai bod penderfyniad arall. Mae Arriva Bus Cymru yn eiddo i Deutsche Bahn, y cwmni rheilffordd sy'n eiddo i'r wladwriaeth yn yr Almaen.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter