Cododd Llyr Gruffydd bryderon yn y Senedd ynghylch penderfyniad cwmni Global Radio i ddiddymu eu gwasanaeth Cymraeg Capitol Cymru.
Bydd y ddarpariaeth Gymraeg ar radio masnachol yng Nghymru yn do di ben ar 24 Chwefror yn dilyn y cyhoeddiad yma, gan gau stiwdio Capitol yn Wrecsam gan ddiswyddo’r holl weithwyr yn ol GlobalMedia, perchnogion Capital.Bydd y rhaglenni Cymraeg sydd ar yr orsaf i gyd yn diflannu – Rhglenni Brecwast (6-10) a Drive (4-7), bydd rhaglenni Saesneg eu iaith yn dod y neu lle fydd yn cael eu
recordio yn Nghaerdydd, ond yn cael eu cynhyrchu yn Leicester Square yn Llundain. Bydd gweddil arlwy yr orsaf i gyd yn cael ei recordio a’i gynhyrchu yn stiwdios Global
yn Leicester Square.
Mae'r newidiadau yn bosib yn dilyn cyflwyno'r Ddeddf Cyfryngau newydd fis Hydref 2024 – toes dim gofyniad yn ol y ddeddf ar unrhyw orsaf fasnachol i ddarparu unrhyw arlwy lleol (ac yn sicr ddim yn y Gymraeg) yn dilyn cyflwyno’r ddeddf. Mae hyn er fod OFCOM yn honi - “Mae’r Ddeddf Cyfryngau wedi’i llunio i ddiogelu darlledu gwasanaeth cyhoeddus”. Yn amlwg tydi’r Gymraeg ddim yn rhan o unrhyw ystyriaeth.
Ni fydd unrhyw gerddoriaeth Gymraeg yn cael ei chwarae ar donfeddi Capital yng Nghymru yn dilyn y newid. Radio Cymru a Radio Cymru 2 fydd yr unig sianeli fydd yn chwarae cerddoriaeth Gymraeg yn y Gogledd tu hwnt i radio cymunedol Mon FM.
Cyn Deddf y Cyfryngau 2024, roedd pwerau presennol Ofcom o ran defnyddio’r Gymraeg gan ddeiliaid trwyddedau radio masnachol yn gyfyngedig. Byddai trwyddedeion yn gwneud ymrwymiadau ar gymeriad gwasanaethau – gan gynnwys unrhyw ymrwymiadau Cymraeg – fel rhan o broses gystadleuol o wneud cais am drwydded. Yna, byddai Ofcom yn gosod rhwymedigaethau trwydded yn adlewyrchu'r ymrwymiadau hyn. Roedd hyn yn golygu na allai Ofcom fandadu ymrwymiadau iaith Gymraeg, dim ond gorfodi'r ymrwymiadau hyn lle roeddent wedi’u gwneud.
Mewn datganiad yn y Senedd galwodd Llyr Gruffydd fel hyn-
"Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd cwmni Global Radio eu bod yn rhoi’r gorau i ddarlledu eu gorsaf radio Capital Cymru. Mae Capital Cymru yn unigryw – mae hi’n orsaf sydd yn darlledu crynswth ei darpariaeth yn ystod y dydd yn y Gymraeg i Ogledd-orllewin Cymru. Bydd y cwmni yn cau eu stiwdio yn Wrecsam yn barhaol, gan ddiswyddo 12 o staff. Mae oblygiadau y penderfyniad hwn yn bellgyrhaeddol. Dyma ddod i ddiwedd cyfnod o ddarlledu masnachol trwy gyfrwng y Gymraeg yn y gogledd – cyfnod sydd wedi parhau ers degawdau.
"Dyma hefyd roi terfyn i chwarae cerddoriaeth Gymraeg ar y tonfeddi masnachol – ergyd aralli’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru. Daw’r penderfyniad hwn yn dilyn cyflwyno’r Ddeddf Cyfryngau Newydd llynedd. O dan yr hen drefn, roedd gan OFCOM y gallu i fynnu fod darlledwyr masnachol yn cynnig gwasanaeth yn y Gymraeg o dan amodau trwyddedu’r gorsafoedd. Daeth sawl argymhelliad gan Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Senedd fod darpariaeth debyg yn cael ei chynnwys o dan y ddeddf newydd – ac yn wir galwodd y pwyllgor am ddiwygio’r Bil. Ond anwybyddu’r galwadau a wnaeth Llywodraeth San Steffan.
"Wrth gwrs, datganoli cyfrifoldebau dros ddarlledu ydi’r unig ateb yn y pen draw i amddiffyndarlledu Cymraeg a Chymreig ar y tonfeddi, ond yn y cyfamser, all y Llywodraeth wneud datganiad ar y sefyllfa bresennol, a’r hyn y gellir ei wneud i amddiffyn y ddarpariaeth, ac wrth gwrs – nifer o swyddi gwerthfawr?"
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter