Talodd Llyr Gruffydd deyrnged i bencampwyr Cymru Premier TNS ar eu llwyddiant wrth gyrraedd camau olaf cystadlaethau Ewrop am y tro cyntaf yn y Senedd yr wythnos hon.
Mewn datganiad i'r siambr, dywedodd Mr Gruffydd -
"Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddymuno'n dda i'r Seintiau Newydd, yn yr hyn sy'n foment hanesyddol i'r clwb ac, wrth gwrs, i bêl-droed Cymru, oherwydd pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru, TNS, yw'r tîm cyntaf erioed o Gymru i gymhwyso ar gyfer cymalau grŵp pêl-droed clwb Ewropeaidd. Ac o ganlyniad, nos yfory, wrth gwrs, byddan nhw'n wynebu Fiorentina yng Nghynghrair Cyngres UEFA."
Aeth ymlaen i ddweud -
"Fel y gwyddom i gyd, TNS yw un o'r timau mwyaf llwyddiannus yn hanes pêl-droed domestig Cymru. Maen nhw wedi ennill teitl Cymru Premier 16 o weithiau. Mae'r garfan bresennol yn weithwyr proffesiynol llawn amser, wrth gwrs, dan arweiniad y rheolwr Craig Harrison. Ac er bod y clwb bron yn ddieithriad yn gymwys ar gyfer cystadlaethau Ewropeaidd, breuddwyd oedd hi erioed, yn enwedig i gadeirydd y clwb, Mike Harris, yw camu ymlaen i rowndiau'r grŵp, a'r tro hwn, wrth gwrs, maen nhw wedi gwneud hynny.
"Wrth ddod yn dîm cyntaf Cymru Premier i gyrraedd y rowndiau hyn, maent bellach yn wynebu'r posibilrwydd brawychus o chwarae rhai o'r enwau mawr ym mhêl-droed Ewrop, a bydd y gêm hanesyddol gyntaf, wrth gwrs, yn cael ei chwarae nos yfory yn erbyn cewri'r Eidal, Fiorentina yn y Stadio Artemio Franchi, gyda thorf o 43,000 o gefnogwyr, ychydig yn fwy na capasiti 2,000 yn Stadiwm Neuadd y Parc TNS. A Fiorentina, gyda llaw, ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth hon am y ddau dymor diwethaf, felly bydd yn brofiad gwych i dîm Craig Harrison.
"Bydd nifer yn cofio Bangor yn curo Napoli nôl yn 1962. Bydd rhai yn cofio Merthyr yn curo Atalanta yn 1987. Wel, ai'r Seintiau Newydd fydd y tîm nesaf o Gymru i guro cawr o'r Eidal yn Ewrop? Pob hwyl i'r Seintiau Newydd gan bawb yn Senedd Cymru. "Rhowch hel iddyn nhw!""
Bydd TNS yn chwarae Fiorentina heno (nos Iau 3 Hydref) am 20.00
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter