Dylai'r adroddiad hirhoedlog i'r tân yn ffatri Kronospan yn y Waun gael ei ryddhau ar unwaith.
Dyna farn Aelod o'r Senedd Plaid Cymru o Ogledd Cymru, Llyr Gruffydd, a ddywedodd fod yr oedi wrth ryddhau'r ymchwiliad yn achosi anesmwythder yn y gymuned leol.
Digwyddodd y tân bron i dair blynedd yn ôl ym mis Ionawr 2020 pan aeth pren ar iard y ffatri ar dân. Roedd modd gweld mwg a fflamau am filltiroedd a dywedwyd wrth drigolion lleol am aros dan do o ganlyniad.
Dywedodd Mr Gruffydd: "Mae'n fater o bryder bod yr ymchwiliad dal heb adrodd yn ôl. Rwy'n deall bod yr adroddiad i fod i gael ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2020 ond roedd pandemig Covid yn golygu bod yn rhaid i adnoddau ailddyrannu a derbyn yr esboniad hwnnw yn llawn am yr oedi cychwynnol. Fodd bynnag, nid yw hynny'n wir bellach ac, er mwyn trigolion a gweithwyr lleol yn y ffatri, mae'n bwysig ein bod yn cael gweld canfyddiadau'r ymchwiliad fel bod modd osgoi tanau yn y dyfodol. Mae yna lawer o bryder yn lleol am ansawdd yr aer ac fe ychwanegodd digwyddiadau Ionawr 2020 at y pryderon hynny.
"Mae wedi cael ei ddisgrifio fel y tân gwaethaf yn hanes y safle a dydyn ni dal ddim yn gwybod sut ddechreuodd y tan ac i ba raddau y cafodd cemegolion a gronynnau niweidiol eu rhyddhau i'r atmosffer ac i dai cyfagos. Rydym yn gwybod bod pobl yn yr ysbyty y noson honno ac mae angen i drigolion y Waun wybod bod eu hiechyd a'u diogelwch yn flaenoriaeth.
"Dyna pam rwy'n galw ar ryddhau'r adroddiad nawr fel y gallwn ni i gyd ddeall beth aeth o'i le'r noson honno ac i'r rheoleiddwyr weithio gyda'r cwmni i sicrhau bod pethau'n cael eu cywiro. Dyma'r lleiaf mae trigolion lleol yn ei haeddu."
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter