Yn ddiweddar yn y Senedd fe wnaeth Llyr Gruffydd bwyso ar y Llywodraeth i adolygu y ddarpariaeth sgrinio canser yng Nghymru.
Wrth annerch y Senedd, gofynnodd Llyr Gruffydd am ddatganiad gan Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ar y mater. Mae'r mater wedi bod yn y sylw newyddion yn ddiweddar gyda Syr Chris Hoy yn datgelu bod ganddo ganser terfynol yn deillio o'r prostad.
Dywedodd Llyr Gruffydd yn Siambr y Senedd-
"Ar hyn o bryd does dim darpariaeth ar gyfer sgrinio yng Nghymru nac ardaloedd eraill o'r DU, er mai canser y prostad yw'r canser mwyaf cyffredin ymhlith dynion.
"Yn ôl yr elusen ganser Prostate Cymru - mae canllawiau'r GIG hen ffasiwn yn peryglu bywydau. Er bod gan bob dyn dros 50 oed hawl i gael prawf PSA am ddim, yn iau os oes hanes teuluol, dywedir wrth feddygon teulu am beidio â chodi'r pwnc gyda dynion oni bai bod ganddynt symptomau. Fel yr amlygwyd gan Syr Chris Hoy yn ystod yr wythnosau diwethaf, yn y rhan fwyaf o achosion nid oes unrhyw symptomau, ac erbyn i rywun ddod gyda symptomau, bydd y canser ar gam llawer datblygedig, ac o bosibl yn anweladwy."
Y risg bresennol yw 1 o bob 8 dyn, 1 o bob 3 os oes hanes teuluol.
Yn ei ble i'r Llywodraeth galwodd Llyr Gruffydd -
"Felly a fydd Llywodraeth Cymru yn gwrando ar alwadau Syr Chris Hoy ac yn edrych eto ar ei safbwynt ar sgrinio canser y prostad yng Nghymru?"
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter