Mae gwasanaeth ysbyty hanfodol mewn perygl o fethu oherwydd diffyg staff, mae AS Plaid Cymru wedi rhybuddio.
Dywedodd Llyr Gruffydd, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ogledd Cymru, fod yr uned radiotherapi yn Ysbyty Glan Clwyd yn brin o staff cronig mewn rhai ardaloedd a bod penaethiaid y GIG yn gorfod allanoli mwy a mwy o driniaeth canser i ganolfannau eraill yn Lloegr.
Dywedodd: "Mae pobl o du fewn y GIG yn bryderus ac wedi amlinellu'r problemau sy'n wynebu'r gwasanaeth radiotherapi yng ngogledd Cymru. Mae'r uned yn gwasanaethu'r Gogledd gyfan ac mae'r adran ffiseg radiotherapi yn enwedig yn brin o staff - yn y maes cynllunio radiotherapi rwy'n deall bod problemau mawr ar ôl i ddau aelod uwch o staff ymddiswyddo. Roedd gan y ddau yma bron i 50 mlynedd o brofiad rhyngddyn nhw ac mae'r diffyg capasiti nawr yn golygu nad yw staff iau yn gallu cael yr hyfforddiant sydd ei angen arnynt i gyrraedd cymhwysedd mewn modd amserol. Mae corneli'n cael eu torri i geisio cyflawni hyn.
"Mae yna ddiffyg peirianwyr difrifol hefyd yn yr adran ffiseg sy'n golygu bod gwaith cynnal a chadw hanfodol ar y peiriannau arbenigol yn cael ei effeithio. Heb y gwaith cynnal a chadw hwn, does dim modd trin cleifion.
"Yn ogystal, mae mwy na 50% o ymgynghorwyr wedi gadael yn ystod y tri mis diwethaf trwy ymddiswyddiad neu absenoldeb hir dymor. Mae hyn ar ben y prinder presennol ac mae'n rhaid i mi gwestiynu gallu uwch reolwyr o fewn Betsi os ydyn nhw'n caniatáu i hyn ddigwydd.
"Nid yw hyn yn broblem newydd – dywed wrtha’i bod rheolwyr wedi cael rhybudd cyson am effaith prinder staff am ddegawd a mwy ond nid oes ymateb cadarnhaol wedi bod.
"Rhy’n ni nawr yn wynebu sefyllfa lle bydd hyd yn oed mwy o staff sydd wedi'u gorlethu; lle bydd rhestrau aros yn cynyddu i'r rhai sydd angen triniaeth bwysig a lle bydd mwy o gleifion yn gorfod teithio i ganolfannau eraill yn Lloegr am driniaeth - gan gymryd fod capasiti yno."
Dywedodd fod y sefyllfa'n gwbl annerbyniol ac fe bwysleisiodd unwaith eto fethiant y bwrdd iechyd i ddelio â chynllunio'r gweithlu a darparu gwell gofal iechyd yn y Gogledd.
Ychwanegodd Mr Gruffydd: "Ddegawd yn ôl, fe wnaeth penaethiaid y GIG ddatgan eu bod yn gwneud newidiadau mawr ac 'mae gofal iechyd yng ngogledd Cymru yn newid'. Wel, mae wedi – er gwaeth. Mae 'na broblemau sydd yn derbyn cyhoeddusrwydd da iawn o ran iechyd meddwl, gwasanaethau fasgwlar a diffyg gwelyau cymunedol ond mae hwn yn wasanaeth arall eto sy'n mynnu sylw brys gan y bwrdd iechyd.
"Mae staff profiadol sydd yn gwybod beth sydd ei angen yn disgrifio'r dyfodol i'r uned radiotherapi fel rhai 'brawychus' a 'dychrynllyd'. Mae'n amlwg eu bod nhw ar dorri pwynt a dyw hynny ddim yn argoeli'n dda ar gyfer y dyfodol. Y staff yw ased mwyaf y GIG ac maen nhw'n haeddu'r un gofal a sylw ag y maen nhw'n ei roi i'w cleifion.
"Ar draws y bwrdd iechyd, mae 'na staff profiadol yn dweud 'digon yw digon' ac yn gadael. Er gwaethaf cynnydd cymedrol mewn mannau hyfforddi ym Mangor, Aberystwyth a Wrecsam, ni fydd y graddedigion newydd hyn yn cael eu ffrydio am dair blynedd arall ar y cynharaf. Nid yw'n ymddangos bod strategaeth cynllunio gweithlu digonol ar waith na chynllun olyniaeth.
"Heb ddigon o ymgynghorwyr â sgiliau arbenigol mewn meysydd fel y pen a'r gwddf, gastro-berfeddol a chanser y colo-rectwm, nid yw'r uned yn un hyfyw.
"Rwyf wedi ysgrifennu i godi'r pryderon hyn gyda'r bwrdd iechyd ond rwyf hefyd angen i'r gweinidog iechyd ddeall bod y GIG yng ngogledd Cymru dal mewn argyfwng, er gwaethaf ymdrechion gorau'r Llywodraeth i esgus fel arall. Mae staff angen sicrwydd bod pobl mewn grym - y bwrdd iechyd a'r Llywodraeth - yn ymwybodol o'r broblem mewn gwirionedd a bod ganddynt gynllun i ddelio ag ef. Mae'n gwbl annerbyniol eu bod yn gadael oherwydd y pwysau sydd ganddynt i wneud eu gwaith bob dydd."
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter