Gweinidog yn cael ei feirniadu am wrthod gwyrdroi toriadau 'trychinebus' i wasanaethau bws y gogledd

Mae gweinidog wedi cael ei feirniadu am y penderfyniad i osod toriadau "trychinebus" i wasanaethau bysiau yng ngogledd Cymru.

Condemiodd Llyr Gruffydd, sy'n cynrychioli'r rhanbarth yn y Senedd,  Lee Waters ar ôl i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd amddiffyn y symudiad.

Mae Mr Gruffydd, o Blaid Cymru, wedi rhybuddio y bydd y toriadau yn gadael y bobl dlotaf a mwyaf bregus sy'n ynysig wedi i Lywodraeth Cymru gadarnhau ei fwriad i gael gwared â'r Cynllun Argyfwng Bwsiau.

Rhoddwyd y cynllun bysiau ar waith yn ystod y pandemig pan blymiodd nifer y teithwyr ac yn ddiweddar cafodd ei ymestyn dros dro tan fis Mehefin 2023. Dyw nifer y teithwyr dal heb wella i'w lefelau cyn Covid, ond mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu dileu'r cynllun serch hynny.

Byddai'r symudiad gan Lywodraeth Cymru yn gweld toriad o £2.2m o wasanaethau bysiau Arriva yn y gogledd, ac mae wedi ei amcangyfrif y bydd yn peryglu 330 o swyddi.

Dywedodd Mr Gruffydd y byddai tynnu'r cyllid "hanfodol" hwn yn "drychinebus" i bobl yng Ngogledd Cymru sy'n dibynnu ar wasanaethau bws.

Dadleuodd hefyd ei fod "ddim yn gwneud synnwyr" i brosiectau adeiladu ffyrdd cael ei sgrapio a thorri cyllid ar gyfer gwasanaethau bws ar yr un pryd.

Mae Plaid Cymru'n galw ar y Llywodraeth i ymestyn y cynllun argyfwng am o leiaf 18 mis, i roi sicrwydd a rhoi'r amser i ddarparwyr gynllunio ymlaen llaw.

Yn ystod dadl yn y Senedd, amddiffynnodd Mr Waters y penderfyniad i ddileu'r cynllun, gan honni bod llymder "wir wedi rhoi'r kibosh ar yr holl beth".

Awgrymodd hefyd bod "y rhestr o heriau'n glir" ond bod "y rhestr o atebion yn llai eglur".

Wrth siarad ar ôl y ddadl, dywedodd Llyr Gruffydd AS: "Rwy'n siomedig bod Llywodraeth Cymru yn gwrthod gwyrdroi ei phenderfyniad i wneud i ffwrdd gyda'r Cynllun Argyfwng Bws.

"Mae'r cam hwn yn wael i'r amgylchedd, yn ddrwg i swyddi ac yn drychinebus i drafnidiaeth gyhoeddus.

"Bydd y toriadau trychinebus hyn i wasanaethau bws yn dinistrio'r hyn sydd, i lawer o bobl, yng Ngogledd Cymru, yr unig fath o drafnidiaeth gyhoeddus sydd ganddyn nhw.

"Mae tri chwarter o'r holl deithiau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn cael eu gwneud ar fws, ond mae bysiau yn cael ffracsiwn o'r buddsoddiad sy'n cael ei glustnodi ar hyn o bryd gan y Llywodraeth ar gyfer y rheilffyrdd.

Bydd torri'r cyllid bysiau bellach ar adeg tra fod nifer y teithwyr yn gostwng a chostau cynyddol yn dinistrio'r rhwydwaith bysiau.

"Bydd yn anghymesur o anfantais i fenywod, plant a phobl ifanc, yr henoed, yr anabl, gweithwyr ar incwm isel, a chymunedau gwledig.

"Mae torri cymhorthdal i drafnidiaeth bysiau yng nghanol argyfwng costau byw wymhlith y gweithredoedd mwyaf atgas y mae'r Llywodraeth Lafur Gymreig hon erioed wedi'i chynnig.

"Yn ei hadolygiad ffyrdd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod yn dileu nifer o brosiectau adeiladu ffyrdd, ac mae'n debyg ei bod wedi datgan ei hymrwymiad i newid hanesyddol mewn polisi a blaenoriaeth o ffyrdd i drafnidiaeth gyhoeddus.

"Felly, nid yw'n gwneud synnwyr iddo dorri cyllid hanfodol ar gyfer gwasanaethau bysiau ar hyn o bryd. Rwy'n eu hannog i amddiffyn y rhwydwaith bysiau presennol tra bod rhwydwaith trafnidiaeth well, tecach, gwyrddach yn cael ei adeiladu."


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Gruffudd Jones
    published this page in Newyddion 2023-03-27 11:08:48 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd