Herio'r Prif Weinidog am wella cysylltiadau ffyrdd yn y Gogledd

Image previewAS Plaid yn cwestiynu'r Prif Weinidog ynghylch atgyweirio ffyrdd a phontydd

Flwyddyn ar ôl i lifogydd ysgubo pont restredig hanesyddol yn Sir Ddinbych i ffwrdd a chau cyswllt ffordd allweddol yn Nyffryn Llangollen, mae AS Plaid Cymru Llyr Gruffydd wedi holi’r Prif Weinidog ynghylch cyllid ar gyfer atgyweirio ffyrdd a phontydd.

Dywedodd Llyr Gruffydd, AS Gogledd Cymru Plaid Cymru, fod Pont Llannerch ger Trefnant yn Nyffryn Clwyd a'r B5605 sy'n cysylltu Cefn Mawr a Phentre ger Y Waun yn gysylltiadau allweddol i gymunedau lleol.

Gofynnodd i’r Prif Weinidog yn y Senedd wneud sylwadau ar rwystredigaethau lleol nad oedd unrhyw gyllid wedi’i ddyrannu’n ganolog i helpu awdurdodau lleol i wneud y gwaith atgyweirio penodol hwn:

"Un rhwystredigaeth yw ei bod yn cymryd cymaint o amser, yn aml iawn, i ddelio ag atgyweirio seilwaith. Yn y cyfamser, gall y difrod waethygu a gall y costau gynyddu. Rwy'n meddwl am enghreifftiau fel y B5605 ger Wrecsam.

"Mae dros flwyddyn bellach ers i'r difrod gael ei wneud yno a phont Llannerch yn Nhrefnant, Sir Ddinbych, lle mae blwyddyn ers i'r difrod ddigwydd i'r bont yno. Yn y ddwy achos, mae trigolion lleol bellach yn gorfod teithio'n bell oherwydd bod y seilwaith wedi’i golli, ac mae hynny’n dod â chost o ran yr ôl-troed carbon hefyd.

“Felly, a gaf i wneud cais i’r Llywodraeth edrych ar frys ac yn ffafriol ar geisiadau gan awdurdodau lleol am fuddsoddiad i adfer y ddwy enghraifft hynny o seilwaith a gollwyd o ganlyniad i ddifrod llifogydd a newid hinsawdd, oherwydd mae’r oedi yn golygu nid yn unig y bydd y gwaith yn cael ei wneud. fod yn ddrytach mewn termau ariannol, ond bod cost uwch o ran newid yn yr hinsawdd hefyd?"

Mewn ymateb dywedodd y Prif Weinidog:
"Rwy'n diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiynau hynny. Un o'r rhesymau pam yr ydym wedi darparu mwy o refeniw yn y system yw helpu awdurdodau lleol i baratoi ceisiadau am gyllid i wneud gwaith lle mae'r gwaith hwnnw'n angenrheidiol. Ac rydym yn cydnabod y ffaith bod awdurdodau lleol wedi cael anhawster i ddod â phopeth at ei gilydd a chyflwyno eu ceisiadau i ni. Nid wyf yn gyfarwydd â’r enghraifft y cyfeiriodd Llyr Gruffydd ati yn Wrecsam, ond yr wyf yn gyfarwydd â phont Llannerch ac, ar hyn o bryd, nid ydym wedi derbyn bid gan y cyngor lleol yno.

“Felly, yr hyn yr ydym wedi’i wneud yw nid yn unig cynyddu cyllid cyfalaf i wneud y gwaith hwnnw, ond rydym hefyd wedi darparu refeniw i helpu awdurdodau lleol ac eraill i baratoi ar gyfer y gwaith hwnnw, i roi eu ceisiadau at ei gilydd, a thrwy wneud hynny cyflymu’r broses sydd gennym.”

Wrth siarad wedyn, dywedodd Mr Gruffydd: “Mae cynghorau’n wynebu llawer mwy o heriau o ran cynnal seilwaith yn wyneb yr argyfwng hinsawdd cynyddol, gan gynnwys llifogydd, ac nid yw cyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru yn ddigonol ar gyfer trwsio’r ddau fater hyn yn fy rhanbarth. Mae angen rhaglen gyd-gysylltiedig i sicrhau bod gennym rwydwaith trafnidiaeth cynaliadwy a gwydn ar gyfer y dyfodol. Dylai CNC a CADW hefyd fod yn cyflwyno’r achos dros gyllid i Lywodraeth Cymru. Fel arall byddwn heb bontydd a ffyrdd fel hyn am flynyddoedd lawer i ddod.”

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Marc Jones
    published this page in Newyddion 2022-01-26 15:17:25 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd