Ddwy flynedd wedi'r tân dinistriol yn Kronospan, mae AS Gogledd Cymru Plaid Cymru wedi holi eto am yr ymchwiliad i'r tân.
Dywedodd Llyr Gruffydd, Aelod Seneddol rhanbarthol Plaid Cymru:
“Digwyddodd y tân ddwy flynedd yn ôl ym mis Ionawr 2020 ac roedd yr adroddiad cychwynnol i fod i'w gyhoeddi ym mis Ebrill 2020. Wrth gwrs fe ddaeth pandemig Covid i'n taro yn y cyfamser ac rwy’n deall yn iawn pam y dargyfeiriwyd adnoddau a swyddogion i ddelio â’r argyfwng hwnnw.
“Fodd bynnag, rwy’n meddwl bod pobl y Waun a phawb sydd wedi’u heffeithio gan y tân a’r problemau llygredd parhaus yn haeddu gwybod beth sy’n digwydd ac mae’n bwysig ein bod yn cael diweddariad ar yr ymchwiliad a phryd mae’n debygol o adrodd yn ôl.
“Ers y tân, rydw i wedi cael diweddariadau parhaus gan drigolion lleol am y llygredd sy’n effeithio arnyn nhw sy’n deillio o’r ffatri.
“Felly mae angen datrys hyn ac, er gwaethaf y pwysau parhaus ar staff oherwydd y pandemig, rwy’n gobeithio y gallwn gael ateb gan Gyngor Wrecsam er mwyn i drigolion gael gwybod pryd maen nhw’n disgwyl i’r adroddiad i’r tân weld golau dydd.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter